Beibl Llambed
Timotheus
f. 409, II Timotheus: Ar ben y dudalen ceir pennawd rhedegog mewn prif lythrennau arddangos coch a glas, a’r geiriau: 'P(ro)logus ad Thimoth(e)um II (secundum)'. Ar y dudalen gwelir pedwar gwahanol fathau o brif lythrennau wedi’u haddurno. Ar ben y golofn o ysgrifennu i'r chwith ceir N fawr wedi'i haddurno gan yr ysgrifennydd, G. de Fécamp, lle dangosir wyneb dyn o'r tu blaen sydd wedi'i dynnu ag inc o'r testun. Yn nesaf, yn y golofn i’r dde ceir llythyren I ar gyfer y prolog cyntaf i II Timotheus sy’n dechrau â’r gair ‘Item’ (eto), ac sy’n dangos motiff draig â phen dynol a chynffon deiliog.
Mewn ail brolog sy’n dechrau â’r enw 'Timotheum' ceir yn y brif lythyren T ddyn yn ei eistedd sy’n tynnu tannau saltring â phlectrwm. Wedyn daw’r llythyren gyntaf ar gyfer agoriad II Timotheus sy’n dechrau â’r enw 'Paulus', ar gyfer Paul awdur yr epistol at Timotheus, ac yn ôl yr arfer ar gyfer darluniadau i’r llyfr hwn yn y Beibl, mae ganddo lun o Sant Paul (a’i ben moel nodweddiadol) a llyfr a chleddyf yn ei law. Mae’r llythyrau cyntaf paentiedig mewn arlliwiau glas a phinc a llain aur neu gefndir aur ac mae gweddill y geiriau agoriadol wedi’i ysgrifennu mewn prif lythrennau arddangos mawr.
Nesaf

