Darganfod Groeg

pausaniasMae gan Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen gasgliad pwysig o gyfrolau cain pwysicaf yr ail ganrif ar bymtheg, y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n sôn am archwilio Gwlad Groeg a’i gorffennol clasurol. Prynwyd y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer y llyfrgell gan yr hen roddwr hael Thomas Phillips. Wele ddetholiad bach o’r trysorau hyn.

“Wrth deithio yng Ngwlad Groeg, dylech gael Pausanias bob amser yn eich llaw er mwyn darganfod y pethau rhyfeddol a ddarganfu yntau pan fu’n teithio’r ffordd hon amser maith yn ôl.” Y gwleidydd Ffrengig a noddwr i’r celfyddydau, Jean-Baptiste Colbert, 1679

Argraffwyd y copi cynharaf o Pausanias sydd gennym, lle ceir y darlun hwn o Arion, yn Basle ym 1550. Herwgipiwyd y bardd a’r cerddor Groeg Arion gan forladron a daeth dolffiniaid i’w achub.