Henebion Rhufain yr Hen Fyd

Cestius-Pront Cestius

Roedd y mawsolëwm hwn ar ffurf pyramid yn ddatganiad beiddgar yn Rhufain yn 18-12 CC. Fe’i codwyd ar un o safleoedd gorau’r ddinas ar hyd Ffordd Aventinus, sef y brif ffordd a oedd yn cysylltu’r brifddinas â’i phorthladd mawr ynOstia. Y beddrod hwn oedd un o’r adeiladau cyntaf ar ddull Eifftaidd yn y ddinas. Cyn pyramid Cestius, cynrychiolwyd yr Aifft a'i darostyngiad o safbwynt pensaernïol gan ychydig o obelisgau a ailgylchwyd.

Ychydig a wyddys am Cestius heblaw’r disgrifiad angladdol ar ei feddrod: “[Claddwyd yma] Gaius Cestius Epol, mab Lucius, o lwyth Publilia, praetor, tribiwn gwerinol, un o’r saith offeiriad a oedd yn gyfrifol am wleddoedd crefyddol".Ychwanegodd yr adeiladwyr hysbyseb fach at yr arysgrifen: "Cyflawnwyd y gwaith hwn mewn 330 o ddiwrnodau, yn unol ag ewyllys yr ymadawedig, o dan gyfarwyddyd Pontius Mela, mab ac etifedd Publius o lwyth Claudia, a’r rhyddfreiniwr Pothos”.

Cestius-Famiano-Interior Ceir cyfeiriad byr at Cestius hefyd yn Cicero: “Pam y dylwn i sôn am Lucius Cinna? Cafwyd prawf o’i ddidwylledd rhyfeddol o dan lawer o amgylchiadau anodd, ac o’r herwydd mae ei ymddygiad clodwiw ar hyn o bryd yn llai o ryfeddod; mae wedi llwyr ddiystyru’r dalaith a roddwyd iddo; felly hefyd Caius Cestius, dyn mawr a chadarn ei feddwl”(Cicero Phil III 26).

Ynghanol yr ail ganrif ar bymtheg gorchmynnodd y Pab AlecsanderVIIarchwilio y tu mewn i’r bedd. Darganfuwyd ffresgoau a oedd wedi eu niweidio’n ddifrifol, ond nid oedd unrhyw arwydd o’r wrn angladdol lle byddai gweddillion Cestius.

Roedd y pyramid yn un o’r pethau anhepgor i’w gweld i'r rheini a oedd yn gwneud y Daith Fawr yn y 18fed a'r 19eg ganrif. "One keen pyamid with wedge sublime" oedd disgrifiad Shelley ohono yn Adonaïs, sef ei farwnad i John Keats ym 1821; a gwelodd y nofelydd a’r bardd Thomas Hardy y pyramid yn ystod ymweliad â'r fynwent Brotestannaidd gerllaw ac fe'i hysbrydolwyd i gyfansoddi cerdd, Rome  At the Pyramid of Cestius near the Graves of Shelley and Keats, lle holodd: "Who, then was Cestius, / and what is he to me?"

 

 Y Lluniau

Domenico Pronti. Nova raccolta di 100 vedutine antiche della cittá di Roma e su vicinanze incise a bullino da Domenico Pronti. Rhufain, [1795]. 

Famiano Nardini. Roma antica di Famiano Nardini. Rhufain,1666. 

Matthew Dubourg. View of the Remains of Ancient Buildings inRome, and its vicinity with a descriptive and historical account of each subject. Llundain, 1820.