Henebion Rhufain yr Hen Fyd
Circus Maximus
Y ‘circus’ oedd arena’r Rhufeiniad ar gyfer rasio cerbydau a’r pwysicaf a’r mwyaf trawiadol ohonynt oedd y Circus Maximus (‘y circus mwyaf'). Rhagorai o ran maint ar bob adeilad arall ar gyfer sioeau yn yr hen fyd, a hyd yn oed yn y byd modern, fwy na thebyg, gan y dywedir bod lle ynddo ar gyfer rhyw 250,000 o wylwyr. Safai yn y dyffryn rhwng y bryniau Palatinus ac Aventinus. Yn ôl traddodiad llenyddol, fe’i sefydlwyd yn ystod y cyfnod brenhinol, ond uwchraddiwyd ac ailwampiwyd yr adeiladau'n ysbeidiol gydol cyfnod y Weriniaeth.
Iŵl Cesar oedd yn gyfrifol am osod ochrau cyfochrog ac un pen hanner cylchog lle gosodwyd rhesi o seddau esgynnol a deuddeg clwyd dechrau (sef carceres yn Lladin) yn y pen agored. Diogelwyd y Circus Maximus gan raglen adeiladu enfawr yr Ymerawdwr Trajan.
Rhannwyd y lle yn ddwy lon gan wahanfur canolog hir, a physt troi conigol wedi eu nodi ar bob pen. Nodai obelisg Awgwstws a chofebion eraill derfynau’r saith lap ym mhob ras. Byddai timau o bedwar, chwech, wyth a hyd yn oed ddeuddeg o geffylau yn ymgiprys yn y ras, ac fe'u hadwaenid wrth eu lliwiau, a oedd yn cynnwys (ond a oedd yn debygol o newid) coch, gwyn, gwyrdd a glas. Hawdd dychmygu cyffro’r dorf.
Yn ei ganllaw ar gelfyddyd cariad, awgryma Ofydd fod y circus yn lle delfrydol i gyfarfod â menywod, er enghraifft wrth gyfeirio at “meistres” darpar bartner serch a olygir ac oherwydd awyrgylch orlawn y circus, cymaint yn haws yw nesáu ati. “Peidiwch â cholli’r cylch lle mae’r cyrsiau uchel ael yn rasio, bydd llawer o fanteision i’r lle gorlawn hwnnw... eisteddwch wrth ochr eich meistres ... oherwydd arfer y fainc orlawn, ni waeth pa mor swil yw hi, rydych chi’n siŵr o wasgu’r llances” Ofydd, Celfyddyd Cariad: 1.35-42.
Yn wahanol i’r Colisewm neu theatr Marcellus, nid oes llawer o ôl y Circus Maximus am nas ailddefnyddiwyd yn ystod yr Oesoedd Canol. Gadawyd iddo fynd â’i ben iddo. Aeth y lle yn y pen draw yn rhandir ar gyfer tyfu llysiau!
Yr unig olion o adeiladau’r Circus i’w gweld heddiw yw’r seddau hanner-cylchog ar ochr bryn Paletinus, a ail-ddarganfuwyd ac a gloddiwyd yn y 1930au.
Y Lluniau
Romae Antiquae Notitia. Llundain,1820
Romae Antiquae Notitia. Llundain, 1820
Roma vetus ac recens utriusque aedificiis ad eruditam cognitionem expositis.Rhufain, 1738.

