Henebion Rhufain yr Hen Fyd
Y Colisewum
Cyflwynwyd y Colisewm, sef y llwyfan lle byddai dynion ac anifeiliaid yn gwaedu ac yn marw er difyrrwch y torfeydd a lle dywedir i Commodus, mab yr Ymerawdwr Marcus Aurelius, frwydro dros 700 o ornestau, gan yr Ymerawdwr Vespasian yn 79 OC. Fe’i hagorwyd yn 80 OC â gorymdaith fawreddog a gedwid fel arfer ar gyfer cadfridogion buddugoliaethus. Aeth y dathliadau yn eu blaen am 100 niwrnod.
Daw enw’r adeilad o’r ‘Colossus’, sef cerflun anferthol a safai unwaith ar safle domus aurea (Tŷ Euraidd) Nero. Cyn i'r gwaith o adeiladu'r Colisewm allu dechrau, roedd rhaid draenio'r llyn yn nhir plasty crand Nero. Dyma ddisgrifiad Martial o’r olygfa: “Lle gwêl y Colossus serennog y cytserau’n agos a lle cwyd sgaffaldau a adawyd ynghanol yr heol, llewyrchai unwaith neuaddau ffiaidd teyrn creulon, ac ar hyd a lled Rhufain safai un tŷ. Lle cwyd gerbron ein llygaid bentwr mawreddog yr Amffitheatr, bu unwaith lyn Nero” (Martial, Llyfr y Sioeau, 2).
Codwyd y Colisewm gyda’r bwriad o greu argraff: codai rhesi o seddau’n uchel uwchben yr arena enfawr i uchder o ryw 50 metr; addurnwyd y cilfachau â cherfluniau o’r duwiau ac addurnwyd y pyllau grisiau ag aur a marblys. Dyma un o ryfeddodau Rhufain, cymaint ei fri a’i ysblander nes iddo ddenu teithwyr a masnachwyr i’r ddinas a chreu incwm sylweddol yn ogystal â bod yn symbol o bŵer yr ymerodraeth.
Yn ystod y 4edd ganrif daeth brwydrau'r gladiatoriaid yn llai derbyniol, peidiwyd â defnyddio'r Colisewm, ac wrth i'r Ymerdraeth chwalu, daeth y strwythur anferth yn chwarel i adeiladwyr ac yn llain adeiladu wag. Bu hefyd yn safle merthyrdod Cristnogion. Maes o law, cysegrodd yr Eglwys Gatholig y safle a chodi eglwys oddi mewn i’w adfeilion.
Y Lluniau
A select collection of views and ruins in Rome and its vicinity.Llundain, 1819.
View of the Remains of Ancient Buildings in Rome, and its vicinity. Llundain, 1820.

