Henebion Rhufain yr Hen Fyd

Y Pantheon

Pantheon Dubourg Codwyd y Pantheon, sef teml ar gyfer addoli holl dduwiau Rhufain (ystyr pantheon yw 'pob duw’), gan yr Ymerawdwr Hadrian rhwng  118 a 125 OC yn y Campus Martius, safle tir llwyd lle'r oedd dau adeilad blaenorol wedi sefyll, ac un ohonynt wedi’i adeiladu gan Agrippa yn 27 CC.

Uwchben y portico cofnoda’r arysgrifen mai Agrippa a’i cododd (M. Agrippa L. f. consul ter(tium) fecit), ond o graffu’n fanwl ar y strwythur gwelir bod hynny’n anghywir. Felly pam dweud celwydd? Mae’n debyg bod angen i Hadrian wella ei ddelwedd gyhoeddus a gwleidyddol trwy godi ychydig o adeiladau cyhoeddus mawreddog, ond ni allai fforddio rhoi’r argraff i Rufain ei fod yn codi cofebion i’w falchder personol. Roedd angen rhoi arwydd o’i ostyngeiddrwydd i’r cyhoedd.

Roedd Hadrian wedi mynd yn amhoblogaidd am mai prin y gwelwyd ef gartref. I’r Rhufeiniaid, ymddangosai ei bod yn well gan Hadrian deithio o gwmpas yr ymerodraeth - hyd yn oed Prydain (yr ymwelodd â hi yn 122 OC a lle cododd fur). Ac ni wnaeth yr adroddiadau am ei helyntion dramor lawer i’w boblogrwydd gartref. Cythruddwyd pobl gan y si ei fod yn cael ei addoli yn y Dwyrain yn dduw byw. O ganlyniad i’r straeon gwael yn y wasg, roedd gofyn am ychydig o gysylltiadau cyhoeddus da.

PantheonPiranesi Yn yr Historia Augusta, sef casgliad o gofiannau o’r 4edd ganrif OC, dywedir i Hadrian 'godi adeiladau cyhoeddus dirifedi ym mhob man, ond ni roddodd ei enw ar yr un ohonynt ac eithrio teml ei dad Trajan. Yn Rhufain adferodd y Pantheon, y Lloc-pleidleisio, Basilica Neifion, llawer iawn o demlau, Fforwm Awgwstws, Baddonau Agrippa, gan gyflwyno pob un i’r adeiladwyr gwreiddiol.'

Ar ddiwedd eiliau’r Pantheon roedd dwy gilfach lle safai dau gerflun, y naill o Agrippa a’r llall o'r ymerawdwr cyntaf a'r model, sef Awgwstws. Nid oedd unrhyw gerflun i Hadrian.

Mae i’r deml gyntedd (Pronaos) a rotwnda â chromen ar ei ben i greu cela’r deml. Mae’r gromen yn hemisffer perffaith, a hon oedd y gromen fwyaf yn y byd nes i  Brunelleschi adeiladu cromen Eglwys Gadeiriol Fflorens ym 1420-36. Gan mor anferthol oedd y gromen roedd angen deunyddiau adeiladau o’r radd flaenaf; felly cymysgwyd cyfrannau soffistigedig i greu mathau o goncrit a oedd yn gryf iawn ac yn ysgafn iawn. Defnyddiwyd trafertin (y cymysgedd trymaf) ar gyfer y seiliau, ac ar gyfer pen y gromen, o gwmpas yr oculus neu’r agoriad crwn yn y to, defnyddiwyd pwmis folcanig (sef y cymysgedd ysgafnaf) a defnyddiwyd pedwar math arall o ddeunyddiau rhyngddynt a raddiwyd yn ôl eu pwysau.  O ganlyniad, nid oedd perygl i’r pwysau yn y pen fynd yn ormod a gwneud i'r gromen ddymchwel. Dosbarthwyd pwysau’r gromen, trwy gyfrwng llawer o fwâu lliniarol o friciau yn y muriau, ar bob un o’r wyth colofn dal llwyth sy’n creu fframwaith y deml. Oddi mewn i bob un o’r colofnau hyn roedd cerflun o un o’r duwiau.

PantheonPiranesi Maes o law rhoddwyd y deml i’r Pab Boniffas IV gan yr Ymerawdwr Bysantaidd Phocas yn 608 OC. Troes ef y lle yn eglwys Santa Maria ad Martyres. Diogelodd hyn yr adeilad ond bu newidiadau iddo o ganlyniad, gan gynnwys y ddau dwred a ychwanegwyd, sydd bellach wedi eu symud, a’r gweithiau celf Cristnogol a osodwyd yn lle cerfluniau’r hen dduwiau.

 

 

 

 

Y Lluniau

View of the Remains of Ancient Buildings in Rome, and its vicinity.Llundain, 1820.

Piranesi.Le antichità romane.Rhufain, 1756.

Piranesi.Le antichità romane.Rhufain, 1756.