Henebion Rhufain yr Hen Fyd

Trajan

Ystyrir ffris cerfiedig colofn Trajan yn un o gampweithiau celfyddyd yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae’n adrodd hanes buddugoliaeth filwrol yr Ymerawdwr Trajan ar y Daciaid ac fe’i codwyd yn 113 OC.
Ni arbedwyd unrhyw gostau wrth ei greu. Nadredda’r ffris, sy’n rhyw 200 metr o hyd ac a gerfiwyd o farblys costus Carrera, i ben y golofn gyfan, gan esgyn 35 metr uwch lefel y llawr. Fe’i codwyd ar Fforwm Trajan, rhwng Bryniau Capitolinus a Quirinalis, a’r pensaer mawr ei fri, Apollodorus o Ddamascus, a'i lluniodd.

Disgrifiodd Cassius Dio'r safle yn ei Hanes Rhufeinig (Crynodeb Llyfr LXVIII, 16,3):“... yn y Fforwm gosododd golofn enfawr, i fod ar yr un pryd yn gofeb iddo yntau ac i goffáu’r gwaith yn y Fforwm. Oherwydd bu'r ardal gyfan yn un fynyddig ac fe’i torrodd am bellter a oedd yr un maint ag uchder y golofn, gan wneud y Fforwm, o’r herwydd, yn wastad.” Ysgrifennai Dio gan mlynedd ar ôl codi’r golofn, ac ymddengys nad yw ei gyfeiriad at gyfatebiaeth rhwng uchder y golofn a maint y pridd a gymerwyd o’r dyffryn er mwyn clirio’r safle yn gywir.

Noda Dio fod dwy lyfrgell wedi'u codi ger y golofn a oedd yn llwyfannau gwylio lle gallai pobl ar y lloriau uchaf edmygu’r gerfwedd droellog ryfeddol. Daeth yn un o olygfeydd eiconig dinas Rhufain, a adwaenid ar unwaith, ac a oedd yn symbol o'i phŵer. Yn wir, cymaint pwysigrwydd y golofn fel y'i portreadir ar ddarnau arian. Yn wahanol i’r Basilica Ulpia neu’r llyfrgelloedd, mae colofn Trajan yn dal i sefyll, bellach yn rhydd o’r adeiladau cyfagos hynny a oedd wedi tresbasu ar ei diriogaeth. Yn yr un modd â llawer o adeiladau hynafol eraill, goroesodd y golofn am iddo gael ei ailddefnyddio'n gofeb Gristnogol. Roedd cerflun Trajan wedi sefyll ar ben y golofn ers canrifoedd. Ym 1587 rhoddwyd yn ei le gerflun o Sant Pedr sydd wedi para hyd heddiw.

Y Lluniau

Investigi dell'antichità di Roma raccolti et ritratti in perspettiva. Rhufain, 1621.

Roma vetus ac recens utriusque aedificiis ad eruditam cognitionem expositis. Rhufain, 1738.

Views of the Remains of Ancient Buildings in Rome, and its vicinity. Llundain, 1820.