Hudoliaeth a Dewiniaeth

Amphitheatrum Sapientiae‘Pa werth sydd i ffaglau, golau a sbectol, os na fyn pobl weld’. Heinrich Khunrath, Amphitheatrum Sapientiae (Khunrath, 1609)

Mae dull Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts o astudio hudoliaeth ychydig yn wahanol i ddull Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Er bod Hogwarts yn cynnig hyfforddiant rhagorol mewn dewiniaeth ymarferol, hyd yn oed os yw braidd yn beryglus ar adegau, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfle i ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o hanes deallusol a diwylliannol hudoliaeth.

Yn yr arddangosfa hon mae detholiad o lyfrau sy'n berthnasol i'r astudiaeth o Hudoliaeth a Dewiniaeth sy'n cael eu cadw yn y casgliadau hanesyddol yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, lle gall pob un o fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ymgynghori â hwy.

Visscher, c1750Offeiriad esoterig o ysgythriad o'r ddeunawfed ganrif gan Nicolaes Visscher. (Visscher, 1750?)

Nesaf >