Hudoliaeth a Dewiniaeth

Amheuwyr

Kircher, 1667Darlun o achos o ddewiniaeth go iawn, 1681.

I lawer o Gristnogion, roedd bodolaeth cythreuliaid a gwrachod yn ffaith ddiymwad.  Credai gwyddonwyr megis Isaac Newton hyd yn oed ym modolaeth byd yr ysbrydion. Casglodd y clerigwr a’r gwyddonydd Joseph Glanvill dystiolaeth o achosion go iawn o weithgarwch yr ysbrydion er mwyn cefnogi’i safbwynt crefyddol yn erbyn amheuwyr.

Yn ei waith cyhoeddedig sonia Glanvill am yr ystrywiau diniwed na ddylid eu hystyried yn ddieflig megis “lanterns lit with special flames to make all the women present appear naked, and reveal those parts which nature tells us should remain concealed”.

Glanvill, 1681Darlun o lusern hud gan y dyn a’i dyfeisiodd, Athanasius Kircher, cyhoeddwyd ym 1669.

Nesaf >