Hudoliaeth a Dewiniaeth

Basilisks

Maier, 1617Portread cyfoes o Michael Maier. (Maier, 1629)

Er i’r Brenin Iago gondemnio Hudoliaeth Dywyll credai fod lle i rai arferion ocwlt ac mae’n rhaid ei fod wedi cymeradwyo alcemi am iddo wahodd Michael Maier i’w lys ar gyfer ymgynghoriad – arhosodd Maier bum mlynedd.

Efallai fod Iago o’r un farn â Giambattista della Porta a ysgrifennodd “Magick is nothing else but the knowledge of the whole course of Nature. ...It openeth unto us the properties and qualities of hidden things....” (Natural Magick, 1658). Dyma agwedd Ysgol Hogwarts lle caiff Harry ei hyfforddi i barchu’r amgylchedd, ac yn null Ray Mears , ac i oroesi ynddo. Wrth gwrs yn wahanol i Harry Potter, go brin fod Ray Mears wedi gorfod rhyfela â Basilisk.

Gesner, 1575Darlun o Basilisk. (Gesner, 1575) Daeth Hogwarts o dan ymosodiad parhaus gan Basiliskau ym 1992-93.

Nesaf >