Hudoliaeth a Dewiniaeth

Cyfrinachau a Chelwyddau

Pantheo, 1530Voarchadumia. Roedd copi o’r gwaith hwn ym meddiant Dr John Dee, swynwr yn llys y Frenhines Elisabeth I. (Pantheo, 1530)

Roedd swynwyr yn gyfrinachol o reidrwydd, oherwydd pe baent yn codi gwrychyn yr eglwys neu awdurdodau’r wladwriaeth, mae’n debyg y byddent yn gwneud yn fwy na llosgi’u bysedd.

Ym 1518 cyhoeddodd yr offeiriad a’r alcemydd Giovanni Pantheo draethawd a oedd yn canu clodydd alcemi. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddar cyhoeddodd Voarchadumia contra alchimiam, lle condemniodd alcemi ‘ffug’. Efallai fod tro pedol Pantheo yn gysylltiedig â’i angen i ymbellhau oddi wrth ei waith blaenorol. Yn y blynyddoedd a oedd wedi mynd heibio roedd y Fatican a Fenis wedi cyhoeddi dyfarniadau yn erbyn alcemi ac mae’n debyg bod bywyd yn dechrau mynd yn anodd i Pantheo.         

Khunrath, 1609Labordy’r Alcemydd. (Khunrath, 1621)

Nesaf >