Hudoliaeth a Dewiniaeth
Dreigiau
Mihangel yn lladd Draig. Darlun o’r Chwedl Aur, 1498.
Yn ôl pob sôn bwlïod a dihirod yw’r Basilisk, ond mae rhai creaduriaid wedi cael eu cyfrif yn wrthgymdeithasol trwy gamddealltwriaeth. Creaduriaid diniwed a hygoelus, er enghraifft, yw Dreigiau, y mae’n hawdd eu harwain ar gyfeiliorn, ond nid ydynt yn gwbl lygredig, fel yr eglura gasgliad o fywydau’r seintiau yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Jacobus de Voraine, Y Chwedl Aur.
Yn ôl Voraigne, pan oedd Sant Mathew yr apostol yn pregethu yn Ethiopia daeth ar draws ddau swynwr â dreigiau a oedd yn chwythu tân, ac roeddent wedi gwneud iddynt ymosod ar drigolion y dref. Yn hytrach na chosbi’r dreigiau, y cyfan a wnaeth y Sant oedd rhoi pryd o dafod iddynt a’u gyrru adref, a’r wers i ni yw nad oeddent yn fechgyn drwg yn y bôn, ond roeddent yn cymysgu â'r bobl anghywir. Gwaetha’r modd, eithriad oedd Sant Mathew, ac mae’r rhan fwyaf o ddreigiau wedi dioddef oherwydd gwahaniaethu eithafol, gan orffen yn aml mewn rhyw amgueddfa hynodion neu ddiod hudol.
Helfa Ddreigiau, 1630. Arwyddair Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts yw Draco dormiens numquam titillandus - Peidiwch byth â goglais draig sy’n cysgu.

