Hudoliaeth a Dewiniaeth
Dreigiau Ffug
Tri math o ddraig, 1575. Cofnododd Conrad Gesner rysáit am dafod draig wedi’i stiwio mewn gwin gwyn ar gyfer gwella pobl rhag hunllefau.
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg roedd dreigiau o bob lliw a llun ar gael. Roedd rhai heb goesau, rhai â dwy goes, rhai â phedair, ac roedd gan y mwyaf coesog wyth. Ym myd Harry Potter mae o leiaf ddeg o ddreigiau, gan gynnwys y Ddraig Werdd Gyffredin Gymreig.
Er mor anodd yw credu’r peth, roedd rhai o ddreigiau'r Dadeni yn rhai ffug. Roedd yn hysbys bod casglwyr hygoelus yn barod i dalu trwy’u trwynau am ddreigiau ffug wedi’u gwneud o gelanedd cathod môr a chreaduriaid egsotig eraill. Yn Lloegr gelwid yr angenfilod bach hyn yn Jenny Hanivers.
Un o’r Jenny Hannivers. (Gesner, 1575)
Nesaf >

