Hudoliaeth a Dewiniaeth
Hieroglyffau
Llun o ddynfarch gan Valeriano, 1556.
Y codau mwyaf dirgel o ddigon oedd hieroglyffau henfyd yr Aifft, sef gwlad Hermes Trismegistus, oedd ym marn llawer o ysgolheigion yr ocwlt yn datgelu "gwir hanfod pethau dwyfol a dynol” (Hieroglyphica, sive De sacris Aegyptiorum literis commentarii, 1556).
Yn astudiaeth Pietro Valeriano o hieroglyffau’r Aifft, a gyhoeddwyd yn Basel ym 1556, cesglir yr holl wybodaeth am hieroglyffau a oedd ar gael yn ei ddydd ef, ac a oedd yn deillio o ffynonellau Groegaidd diweddar gan gynnwys testun a ddarganfuwyd ym 1422 ar ynys Andros. Cyflwynodd Valeriano ei lyfr i Cosimo de' Medici.
Yr ysgolhaig pwysicaf ym maes Hieroglyffau’r Aiff adeg y Dadeni oedd y polymath Athanasius Kircher. Roedd Kicher yn ysgolhaig a dyfeisiwr toreithiog a oedd wedi gwirioni ar gathod – mynnai fod ei gathod ei hun yn gwisgo ar gyfer swper.
Hieroglyffau a ddehonglwyd gan Kircher. Mae’n rhaid mai pysgod gwefan Babel yw’r rhain. (Kircher, 1667)

