Hudoliaeth a Dewiniaeth

Horosgopau

Schoner, 1545Enghraifft o horosgop genedigaeth gan Schöner. (Schoner, 1556)

Bu’n draddodiad unwaith gomisiynu horosgopau a oedd yn seiliedig ar enedigaeth. Un o’r canllawiau cynharaf a phwysicaf ym maes astroleg enedigol yw Three Books of the Judgement of Nativities, sef casgliad cyflawn o draddodiadau horosgop y Canol Oesoedd a’r Dadeni. Ceisiodd yr awdur, Johannes Schöner, hyrwyddo astroleg yn ddisgyblaeth gadarn yr oedd modd ei dysgu mewn prifysgolion. Chwaraeodd ran arwyddocaol yn y digwyddiadau a arweiniodd at gyhoeddi gwaith Copernicus, De revolutionibus.

Nid oedd y traddodiad wrth fodd pawb. Er enghraifft, ysgrifennodd Giovanni Pico della Mirandola, un o gewri deallusol y Dadeni yn yr Eidal a oedd yn anelu at gysoni crefydd ac athroniaeth, yn erbyn yr arfer yn ei waith De astrologia disputationum. Mae Araith Pico ar Urddas Dyn, sydd i’w chael yn yr un gyfrol, yn fwy cyfarwydd nag unrhyw destun athronyddol arall o’r bymthegfed ganrif. Roedd marwolaeth Pico yn amheus. Aeth si ar led iddo gael ei wenwyno gan ei ysgrifennydd ei hun.

Pico de Mirandola, 1557De astrologia disputationum, 1557.

Nesaf >