Hudoliaeth a Dewiniaeth
Maen yr Athronydd
Yn y llun hwn gan Trismegistus ceir portread symbolaidd o’r gwaith o greu Maen yr Athronydd. Mae’r Haul a’r Lleuad yn cynrychioli Sylffwr a Mercwri y mae’n rhaid eu cyfuno yn Sanctaidd Dân Doethineb er mwyn creu Maen yr Athronydd. Peidiwch â cheisio gwneud hyn gartref! (Maier, 1617)
Mae cardiau Dewiniaid Enwog yn rhy fodern o lawer i'w cynnwys yn LlARB, ond mae llyfr yn y casgliadau am ddewiniaid a chyfrinwyr enwog, sef Symbola Aureae Mensae, gan yr alcemydd Michael Maier, un o ffisigwyr llys yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Rudolf II.
Cyhoeddwyd llyfr Maier ym 1617 yn Frankfurt, mae ganddo ddeuddeg portread ac efallai mai’r enwocaf yw'r darlun o'r offeiriad dirgel o'r Aifft a oedd yn ôl y sôn yn gyfoeswr â Moses, Hermes Trismegistus. Daw ei enw o’r Roeg Hermes a Thoth yn iaith yr Aifft, y naill a’r llall yn dduwiau ysgrifennu a hudoliaeth a oedd yn tywys eneidiau i’r ochr draw, ac a addolwyd yn un duw yn yr Aifft Helenistaidd. Mewn gwirionedd mae cryn amheuaeth a oedd Hermes Trismegistus yn feidrolyn, yn dduw, neu’n gread y dychymyg.
Roedd y gweithiau a briodolir i Trismegistus, ac a elwir gyda’i gilydd yn Corpus Hermeticum, ymhlith y llawysgrifau Groeg, Hebraeg ac Arabeg a gymerwyd o archifau a llyfrgelloedd gan ysgolheigion adeg y Dadeni a oedd yn gweithio i gasglwyr cyfoethog. Yr hyn a wnaeth testunau o’r fath yn atyniadol oedd eu hynafiaeth a’r argraff iddynt gael eu hesgeuluso gan genedlaethau blaenorol.
De potestate et sapientia Dei. Cyfieithwyd i’r Lladin gan un o ysgolheigion mawr y Dadeni Marsilio Ficin (Trismegistus, 1471)
Nesaf >

