Hudoliaeth a Dewiniaeth
Mandragorau
Mandragorau. Gwryw a Benyw. Wedi Gwisgo ac yn Noeth.
Yn Hogwarts dysgir am y defnyddiau a wneir o blanhigion a pherlysiau mewn Perlysoleg. Mae’n debyg mai’r wers fwyaf cofiadwy yw’r un lle maent yn dod ar draws Fandragorau am y tro cyntaf.
De viribus herbarum. Genefa, 1498.
Byddai ysgolheigion ym maes botaneg a meddygaeth adeg y Dadeni yn cynnwys adroddiadau am rinweddau hudol mandragorau a phlanhigion eraill a oedd yn deillio o awdurdodau clasurol.
Y gwaith cynharaf yn LlARB yw un o’r testunau pwysicaf a mwyaf poblogaidd ym maes botaneg cyffredinol yn ystod y Canol Oesoedd. Fe’i lluniwyd ar ffurf fydryddol gan Odo de Meung, a oedd yn byw yn ardal Afon Loire yn Ffrainc tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae’r testun yn seiliedig ar Pliny, Galen, Dioscorides, a Hippocrates. Ymddengys mai copi LlARB yw’r argraffiad cyntaf i gael darluniau ac mae ganddo dorlun pren mawr ar y teitl â ffisigwr sy’n ysgrifennu yn ei lyfrgell, a 66 o dorluniau o flodau a pherlysiau. Yn aml priodolwyd ei boblogrwydd a’r defnydd hir a wnaed ohono i fydryddu Macer, a’i gwnaeth yn haws i feddygon ac apothecariaid ddysgu’i bresgripsiynau.
Yn sgil y teithiau darganfod daeth meddylwyr y Dadeni i gysylltiad ag ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid newydd ac anarferol. Roedd y Byd Newydd hwn, wrth gwrs, yn anhysbys i ysgolheigion clasurol. Oherwydd yr anwybodaeth hon, siglwyd cred pobl mewn testunau hynafol. (Morendi, 1761)
Nesaf >

