Hudoliaeth a Dewiniaeth
Morforynion a morweision
Morforynion a morweision, 1678. Ym myd Harry Potter bu ymgyrchoedd i heidio pobl y môr at ei gilydd a’u labelu’n “hanner brîd”. (Pare, 1678)
Yng nghampwaith Gesner, Hanes Anifeiliaid, fodd bynnag, ceir y rhestr arferol o greaduriaid amheus. Cafodd rhai eu cynnwys, heb os, yn groes i farn bwyllog y naturiaethwr, i gadw'i gyhoeddwr yn hapus. Mae angenfilod brawychus yn gymaint o sbort heddiw ag y buasent erioed.
Efallai fod y morwr a anfonodd y braslun gwreiddiol o Ddiafol Môr at Gesner wedi gweld Morlo Torwyn, a oedd unwaith yn gyffredin ym Môr y Canoldir. Sonia un o athronwyr clasurol Groeg, Aristotles, am forloi’n ymosod ar berllannau.(Gesner, 1575)
Nesaf >

