Hudoliaeth a Dewiniaeth

Myrddin

Heywood, 1641Myrddin yn ysgrifennu’i broffwydoliaethau o’r gwaith, The life of Merlin. (Heywood, 1641)

Yn Hogwarts mae’r myfyrwyr yn casglu ac yn cyfnewid Cardiau Dewiniaid Enwog. Yn y pecyn, yr âs yw Myrddin a anwyd yng Nghaerfyrddin, a’r dewin enwocaf erioed.

Daeth Myrddin i amlygrwydd yn gyntaf o ganlyniad i ychydig o waith adeiladu a wnaeth i Frenin y Brythoniaid, Gwrtheyrn. Mae’n debyg bod gan Ei Fawrhydi eiddo a oedd mewn perygl o fynd â’i ben iddo oherwydd ymsuddiant, a chredai mai’r ffordd orau o ddatrys y broblem fyddai aberthu un o'r werin leol - Myrddin. Hawdd deall pam nad oedd y dewin ifanc yn frwd iawn dros y syniad ac aeth ati i gynnig ateb gwahanol: gyrru allan o ogof o dan yr adeilad ddwy ddraig gecrus a oedd yn tanseilio'r lle â'u cweryla di-baid.  Dyna ateb y broblem ac achub ei groen; esboniodd Myrddin mai Celt oedd un ohonynt a draig Seisnig oedd y llall.

Cofnodir yr Hanes ym Mrut y Brenhinoedd, a luniwyd yn wreiddiol yn y ddeuddegfed ganrif gan glerigwr o Gymro, Sieffre o Fynwy.  Mae gan LlARB gopi talfyredig o’r gwaith, a gyhoeddwyd ym 1585 ac a ysgrifennwyd gan yr Eidalwr Ludovico Pontico Virunio ar gyfer teulu amlwg o fudwyr economaidd yn Fenis a oedd yn hanu’n wreiddiol o Ynysoedd Prydain.

Yn y gyfrol hefyd ceir yr argraffiad printiedig cyntaf o’r Descriptio Cambriae (Disgrifiad o Gymru) gan Gerallt Gymro a’i Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith trwy Gymru), dyddiadur o’i daith trwy Gymru wrth recriwtio i’r Croesgadau. Fe’i golygwyd gan David Powell, un o hoelion wyth y Dadeni yng Nghymru, ac mae’n ffynhonnell bwysig dros ben ar gyfer astudio hanes Cymru.

Colt Hoare, 1806Gerallt Gymro. (Colt Hoare, 1844)

Nesaf >