Hudoliaeth a Dewiniaeth

NostradamusHyginus, 1589  

Firenze. Yn y Poeticon Astronomicon a gasglwyd gan Caius Julius Hyginus ceir y darluniau argraffedig cyntaf o ffigurau alegorïaidd y cytserau a’r planedau.

Mae’r gwersi mewn Perlysoleg yn Hogwarts yn orfodol, ynghyd â’r gwersi mewn Dewiniaeth (darogan y dyfodol) a ddysgir gan y dynfarch Firenze. Mae gweledyddion enwog ymhlith cardiau’r Dewiniaid Enwog sy’n cael eu cyfnewid yn Hogwarts. Yr hyn sy’n cyfateb yn LlARB yw portreadau o weledyddion enwog sy'n ddarluniau mewn llyfr o'r ail ganrif at bymtheg Magic and Divination gan yr ysgolhaig hynafiaethol Jean Jacques Boissard. Roedd Boissard yn gweithio yn Rhufain i Gardinal Caraffa (1430-1511), y dyn a oedd yn gyfrifol am orchymyn i ddail ffigys gael eu peintio ar y ffigurau noeth yng ngwaith Michelangelo, y Farn Ddiwethaf.

 
Nostradamus, 1672Y gweledydd enwocaf erioed wrth gwrs yw Nostradamus a ddaeth yn enwog ym 1555 ar ôl cyhoeddi yn Ffrangeg Les Prophecies. Daw’r darlun hwn o’r cyfieithiad Saesneg cyntaf, a gyhoeddwyd ym 1672.

Nesaf >