Hudoliaeth a Dewiniaeth

Paracelsus

Paracelsus, 1536Y Fferyllfa. (Paracelsus, 1536) “Rhowch y gorau i wneud aur - chwiliwch am feddyginiaethau” oedd siars Paracelus i’w gyd-alcemyddion.

Yn ogystal â dewiniaid chwedlonol megis Arthur, ar gardiau’r Dewiniaid Enwog y mae Harry a’i ffrindiau’n casglu ceir hefyd gymeriadau hanesyddol megis yr alcemydd o’r Swistir yn yr unfed ganrif ar bymtheg, Paracelus, ymchwilydd meddygol sydd wedi ennill lle yn hanes biocemeg oherwydd ei arbrofion ar y defnydd o fwynau ategol. 

Credai Paracelus fod iechyd meddyliol a chorfforol yn ddibynnol ar gytgord rhwng bodau dynol a’u hamgylcheddau penodol. Mae tinc modern i'r syniad nes i chi sylweddoli bod yr amgylchedd yn cynnwys, i Paracelus ac alcemyddion tebyg iddo, yn ychwanegol at y byd hwn, bob byd, pob planed, pob seren, pob corff a phopeth, a’r cyfan wedi’i uno mewn rhwydwaith achosol di-dor. Yn ymarferol, roedd y gred yn gyfrifol am gamau gwag wrth ddadansoddi pobl. Er enghraifft, gallai ffisigwyr roi’r bai ar symudiadau anghytgordiol y planedau am symudiadau anghytgordiol y cylla.

Valeriano, 1556Ysgrifennodd Paracelsus, “ym mhob person, ym mhob anifail, aderyn a phlanhigyn mae seren sy’n adlewyrchu seren yn y nefoedd, sy’n cyfateb iddi ac sydd ar ryw ystyr yr un peth â hi”.

Nesaf >