Hudoliaeth a Dewiniaeth
Rhifau Hud
Ym marn y mathemategydd o’r Canol Oesoedd, Roger Bacon, celfyddyd hudol oedd trafod rhifau a dylai pob ysgolhaig a oedd am astudio'r ocwlt o ddifrif ei meistroli. Rhoddodd Michael Maier hefyd sylw i Bacon (neu'r Doctor Mirabilis fel y’i gelwir weithiau) yn ei lyfr am ddewiniaid enwog. (Maier, 1617)
Mae obsesiwn â chyfrinachedd, yn aml ar ffurf codau a symbolau, yn nodweddiadol o bob swynwr.Roedd llawer, megis Roger Bacon, neu’r Doctor Mirabilis, o’r farn mai defnyddio rhifau oedd y ffordd orau o fynegi’r berthynas rhwng popeth. Dywedodd Bacon mai celfyddyd gyfriniol a hudol oedd mathemateg – a byddai llawer yn cytuno â hynny, o bosibl.
Un o weithiau difrifol cyntaf y Dadeni ar godau rhifol yw Polygraphiae gan y mynach Almaenig Johannes Trithemius ac a gyhoeddwyd yn Cologne ym 1564. Defnyddiwyd un o’r codau yn y Polygraphiae gan Urdd Hermeticaidd y Wawr Euraidd, sef cymdeithas ddirgel a oedd yn drwm ei dylanwad ar ocwltiaeth yn y cyfnod Fictoraidd a'r cyfnod Ewropeaidd modern. (Un o’r aelodau oedd Aleister Crowley neu’r Bwystfil Mawr, fel y’i gelwid.)
Un o godau’r Dadeni a grëwyd gan Johannes Trithemius. Roedd pobl yn amheus ohono ac o'i godau. (Trithemius, 1564)

