Hudoliaeth a Dewiniaeth

Sectau

Khunrath, 1609Darlun o’r Tabled Emrallt lle ysgrifennir, Fel y mae uchod, felly isod. (Khunrath, 1609)

Y Corpus Hermeticum yw’r ffynhonnell lle caiff llawer o alcemyddion ac ysgolheigion eu barn am y byd, y bydysawd a phopeth. Ceir egwyddor sylfaenol hermeticaeth yn ei chrynswth yn yr ymadrodd, “Fel y mae uchod, felly isod.” Portreadir yr ymadrodd yn Ampitheatrum sapientiae aeternae, sef gwaith alcemyddol a ysgrifennwyd gan un o aelodau’r Rhosgroesogion, Heinrich Khunrath, ac a gyhoeddwyd yn Hanofer ym 1609.

Roedd y Rhosgroesogion yn perthyn i gymdeithas ddirgel o gyfrinwyr, a sefydlwyd, yn ôl y sôn, tua diwedd y Canol Oesoedd yn yr Almaen gan Christian Rosenkreuz, cymeriad dirgel nad oes unrhyw gofnod dogfennol ohono’n bod bellach. Credai’r sect fod gan destunau tebyg i’r rheini a briodolir i Trismegistus wirioneddau esoterig "cuddiedig rhag y dyn cyffredin”, sy’n rhoi “cipolwg ar natur, y bydysawd ffisegol a’r byd ysbrydol”. Ffynnodd y sect yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif ac aeth ati i ymroi i astudiaethau gwyddonol trwyadl o’r ocwlt. Ymhlith ei aelodau oedd un o sefydlwyr UDA a’r dyn a gafodd fflach o ysbrydoliaeth wrth hedfan ei farcud, Benjamin Franklin.

Fludd, 1629Roedd y Rhosyn yn un o hoff symbolau’r Rhosgroesogion. Mae un myfyriwr brwd wedi gadael nodiadau helaeth ar destun y gwaith. (Fludd, 1629)

Nesaf >