Hudoliaeth a Dewiniaeth

Sut i wneud Tylwyth Teg

Froschower, 1575Colophon. Froschower. (Gesner, 1575)

Roedd si ar led i Paracelsus lwyddo i greu Maen yr Athronydd, sef sylwedd hud sy’n rhoi anfeidroldeb ac sy’n troi metelau cyffredin yn aur. Yn ôl y chwedl, cadwai’r Maen mewn twll ym mhwmel ei gleddyf.  

Gwaetha’r modd, ni rannodd y meddyg da’r gyfrinach ynghylch creu’r Maen. Fodd bynnag, gwnaeth roi gwybod i’r byd sut i wneud tylwyth teg (Cymysgwch “elfennau bras" a'u cynhesu mewn "tom fygdarthol"). Ymddengys iddo fod yn ddigon sensitif i ymatal rhag creu un mewn gwirionedd.

Cornwall, 1844Gwnaed y tylwyth teg dan sylw gan y Cardi JK Meadows yn ddarluniau ar gyfer drama Shakespeare, A Midsummer Night’s Dream. (Cornwall, 1844)

Nesaf >