Hudoliaeth a Dewiniaeth
Uncyrn
Dim ond gwyryfon a all ddal uncyrn. Yn y darlun hwn ym 1678, ymddengys mai’r uncorn sydd wedi dal y wyryf. (Bartholin, 1678)
Nid dreigiau yw’r unig greaduriaid egsotig i ddioddef oherwydd rhagfarn a chreulondeb. Er enghraifft, er bod uncyrn yn symbolau o rinwedd, maent wedi’u herwhela’n ddi-baid am eu hifori. Ers canrifoedd credid bod hwn yn gwella pobl rhag gwenwyn ac roedd, o’r herwydd, yn beth anhepgor i wleidyddion y Canol Oesoedd a’r Dadeni a oedd yn ceisio lladd ei gilydd byth a beunydd.
Dim ond yn raddol iawn yr heriwyd y syniad bod gan greaduriaid o’r fath rinweddau hud, ac yn wir fod y creaduriaid hyn yn bodoli o gwbl. Ymhlith yr ysgolheigion cyntaf i wneud hynny oedd ffisigwr, naturiaethwr a llyfryddwr o’r Swistir, Konrad Gesner, a hynny ar sail ei arsylwadau personol o fyd natur ynghyd ag arsylwadau ei rwydwaith o ohebwyr, gan wrthod ail-ddweud yn anfeirniadol y cymysgedd o ffaith a ffantasi a oedd yn nodweddu hanesion clasurol a chanoloesol. Roedd hwn yn gam mawr, gan y byddai amau i Aristotles weld uncorn yn debyg i amau bod David Attenborough wedi gweld gorila.
Jonstonus gwahanol fathau o uncyrn. (Jonstonus, 1657)
Nesaf >

