Hudoliaeth a Dewiniaeth
Y Frenhiniaeth a Hudoliaeth
Daemonolgie gan y Brenin Iago a oedd â diddordeb angerddol mewn gwrachod, 1599. (King James I, 1616)
Nid oedd angen i bob swynwr fod yn gyfrinachol. Er enghraifft byddai brenhinoedd Cristnogol yn gwella’u deiliaid yn hudol o scrofula (clefyd y croen) gyda’i gilydd mewn seremonïau cyhoeddus mawr. Nod arddangosiadau o'r fath oedd pwysleisio cyfreithlondeb y brenin, hybu dirgelwch y frenhiniaeth a lleihau awydd meidrolion bach i wrthryfela. Byddai Ymhonwyr y Jacobiaid i’r orsedd yn cyhoeddi eu pwerau i wella er mwyn cyfreithloni eu hawl i'r orsedd, ac roedd brenhinoedd Ffrainc yn dal i honni pwerau iacháu hudol bob cam i'r gilotîn.
Roedd gan y Brenin Iago VI ddiddordeb personol mewn hudoliaeth. Cyn iddo esgyn i orsedd Lloegr, bu'n rhan o'r achos llys pwysig cyntaf yn erbyn gwrachod yn yr Alban, a'r profiad hwn a'i hysbrydolodd i ysgrifennu Daemonologie, ac mae'n bosibl i'r gwaith hwn fod yn rhan o'r deunydd cefndirol ar gyfer Trasiedi Shakespeare, Macbeth. Gwyddys i Iago oruchwylio’n bersonol y gwaith o arteithio a gyhuddwyd o fod yn wrachod a'i frwdfrydedd sy’n gyfrifol, yn rhannol o leiaf, am yr erledigaeth lem ar wrachod yn Lloegr. (Arbedwyd Cymru at ei gilydd rhag yr hysteria ynghylch gwrachod a oedd yn bla mewn gwledydd eraill.)
Gwrachod o Macbeth gan Shakespeare. Y bachgen lleol Joseph Kenny Meadows a oedd yn gyfrifol am y darluniau. (Colt Hoare, 1844)

