Hudoliaeth a Dewiniaeth
Yr Ochr Dywyll
Llawlyfr yr Helwr Gwrachod (M. Del Rio, 1603). Roedd ysgolheigion yr ocwlt at ei gilydd yn eu cyfrif eu hunain yn Gristnogion duwiol. Nid oeddent yn ymhél â’r Celfyddydau Tywyll, ond ceisient ddeall y byd yr oeddent yn byw ynddo a’r byd i ddod. Fodd bynnag, roedd modd camddeall eu cymhellion ac ar adegau o argyfwng crefyddol a gwleidyddol gallent fynd yn fychod dihangol cyfleus.
Mae Disquisitionum Magicarum yn ganllaw ar gyfer y rheini sy’n chwilio am wrachod. Mae’n nodi’r celfyddydau a’r arferion a oedd yn dderbyniol i Eglwys Rhufain a’r rheini y dylid eu hystyried yn waith y diafol. Mewn dwy adran dywedir sut y dylid cael pobl i gyffesu a pha gosbau y dylid eu rhoi. Ym marn yr awdur, gan fod dewiniaeth yn drosedd mor ffiaidd nid oedd angen y dystiolaeth arferol, er ei fod yn gymedrol wrth argymell na ddylid arteithio’r rheini a ddrwgdybir yn fwy nag ar dri achlysur gwahanol.
Dyma’r math o artaith y gallai rhywun o dan amheuaeth o ddewiniaeth ei ddisgwyl. Daw’r llun o Der Neü Layenspiegel gan Ulrich Tengler, 1511, a olygwyd a’i gyhoeddi’n wreiddiol gan yr awdur dyneiddiol o fri, Sebastian Brant.
Nesaf >

