Lluniadau Dwyreiniol Charles Gold

goldMae Oriental Drawings yn gasgliad o ddelweddau a gynhyrchwyd o frasluniau a dynnwyd gan Gapten Charles Gold yn India rhwng 1791 a 1798 tra gwasanaethai mewn ymgyrchoedd milwrol yn erbyn Tipu Swltan, rheolwr Teyrnas Mysore.  Dyluniwyd y llyfr i apelio at hoffter yr oes am yr ‘egsotig’ ac roedd yn llwyddiant masnachol.  Fe’i cyflwynir i Lywodraethwr Cyffredinol India yn ystod cyfnod y rhyfel, Charles, Ardalydd Cornwallis.  

Yn yr un modd â llawer o weithiau eraill yn yr un genre, mae’r delweddau yn Oriental Drawings wedi’u hysgythru bron yn gyfan gwbl mewn acwatint, sy’n creu ansawdd tonyddol meddal, a’u cyfoethogi wedyn gyda dyfrlliw. Lle bo angen defnyddir ysgythru llinell i nodi amlinellau.  (Nesaf)