Lluniadau Dwyreiniol Charles Gold
Cardotwyr
Crëwyd y ddelwedd hon gan artist o'r India. Mae’r ffigurau’n anghymesur. Mae’r plant wrth ben-glin y fenyw yn edrych fel corachod ifanc. Esbonia Gold i goes y dyn gael ei thorri i ffwrdd fel cosb am ladrata, a’r rhesymwaith oedd pe byddai’n troseddu ymhellach, gyda dim ond un goes byddai'n haws ei ddal.

