Lluniadau Dwyreiniol Charles Gold
Coeden Fanian
Mae delweddau Gold yn dyst i’r newid o ran agwedd tuag at India a fu yn ystod y deng mlynedd ar hugain flaenorol o dan reolaeth Prydain. Mae'r ymdeimlad o ryfeddod tuag at India a fynegwyd yn ystod y don gyntaf o Ramantiaeth Ewropeaidd wedi diflannu. Yn ei le mae delweddau sy’n darlunio goruchafiaeth Prydain a chyflwr dirywiedig India.
Gwelir y newid yn “Flying Foxes and Banyan Tree”. Mewn degawdau blaenorol cydnabyddid ystyr ysbrydol y goeden Fanian ym mywyd diwylliannol yr Hindŵiaid a'i phortreadu gyda pharch, ond yn lluniad Gold daw'n gefndir i olygfa sy'n dangos swyddog Prydeinig gyda chyfeirgi Seisnig yn saethu ystlumod ffrwythau o ran hwyl. Mae gwas o’r India yn cario dŵr i chwisgi'r swyddog. Mae Sepoi yn ail-lwytho reifflau. Mae’r olygfa yn barodi ar grŵp saethu ar ystâd yng nghefn gwlad Lloegr, ond am yr asgetig noethlymun sy’n clwydo yn y goeden. (Nesaf)

