Lluniadau Dwyreiniol Charles Gold

Lal Bagh

goldYchydig cyn trechu Tipu, meddiannodd milwyr Prydain Ardd Lal Bagh lle'r oedd ei dad wedi’i gladdu.  Buont yn defnyddio’r cypreswydd addurnol a amgylchynai'r beddrod fel coed tân; yn marchogaeth eu ceffylau ar y lawntiau trwsiadus; yn defnyddio'r adeiladau a'r cofebion i ymarfer saethu targed; yn defnyddio llecynnau a neilltuwyd at fyfyrio fel toiledau; ac yn claddu'u meirw yn y gwelyau blodau.  Roedd yr anrheithio a’r difrodi o fewn golwg y Palas Brenhinol lle carcharwyd teulu Tipu cyn cael eu cludo i Vellore. (Nesaf)