Lluniadau Dwyreiniol Charles Gold
Pandoram
Er mwyn pwysleisio’r argraff o orffwylledd crefyddol a ddangosir yn “A Pandoram, or religious enthusiast”, lluniada Gold lygaid y sadw yn rholio tua’r nen. Yn y testun sy’n cyd-fynd â’r llun, dywedir bod sectau Pandoram yn cael y parch mwyaf. “Maent yn addo peidio byth â chysgu'n gyffyrddus ac felly maent yn gwisgo griliau haearn sy'n dal lampau olew. Roedd gan y ffigwr hwn un ar bymtheg o lampau o’r fath a lludw dom da ar ei dalcen.” (Nesaf)

