Byd Rhyfedd Pierre Pomet
Yn ogystal â bod yn llawlyfr i’r fasnach feddygol, bwriadai Pierre Pomet wrth lunio'i gyffuriadur, A Compleat History of Druggs (1712), iddo fod yn borth i’r byd egsotig i deithwyr cadair esmwyth. Un o’r pethau sy’n gwneud y llyfr mor ddeniadol, yn gymaint heddiw â phryd y’i cyhoeddwyd, yw'r darluniau sy’n britho’r llyfr. Lluniau o anifeiliaid rhyfedd a phobl ryfedd yn gwneud pethau rhyfedd mewn gwledydd rhyfedd.
Mae’r llyfr yn llawn meddyginiaethau egsotig megis defnyddio Esgorllys Virginia i drin clwyfau gan saethau gwenwynig a mwsogl penglog (sef mwsogl sy’n tyfu ar benglogau dynol) i drin popeth arall. Ceir rhagor o ddarnau amheuthun wrth i Pomet ddisgrifio’r dulliau o gynaeafu a phrosesu'r deunyddiau crai a'r trueiniaid bach a oedd yn gwneud y gwaith.
Ganed Pomet (1658-1699) yn ardal Paris mewn teulu o fewnforwyr masnachol o gynhyrchion meddygol egsotig o'r Dwyrain Canol ac Asia.
Ar ôl teithio’n eang yn Ewrop sefydlodd ei fusnes ei hun ac ennill enw’n gyflym am ddarparu deunyddiau fferyllol o’r radd flaenaf. Un o'i gleientiaid oedd Brenin yr Haul, Louis XIV.
Yn ogystal â chyflenwi cyffuriau, roedd Pomet hefyd yn ymchwilydd ac yn athro a oedd yn darlithio ar ddulliau paratoi cynhyrchion meddygol mewn sefydliadau pwysig. Gan amlaf ar werth yn y cyntedd y byddai catalogau argraffedig a ddiweddarid yn rheolaidd ar gyfer ei gynhyrchion ei hun a oedd ar gael yn fasnachol.
Ar ddechrau’r llyfr ceir catalog o’r cynhyrchion botanegol a ddylunnir, ac yn ogystal â darluniau gwyddonol safonol o’r planhigion y deilliant ohonynt, ceir darluniau o’r gwahanol brosesau cynhyrchu. Caiff darllenwyr weld y dull o galedu tybaco, ac o brosesu siwgr ac indigo.
Mae’r adran nesaf yn y gyfrol yn ymwneud â chynhyrchion anifeiliaid, a cheir lluniau o uncyrn, morfilod, rhinoseros ac eliffant, y broses o gynhyrchu sidan, cadw gwenyn, a’r dull o bacio tiwna. Ar ddechrau’r adran ceir disgrifiad cignoeth o’r ffyrdd y defnyddir Mymïod yr Aifft at ddibenion meddygol.
Yn rhan olaf y llyfr, ceir enghraifft o ddibenion meddygol ffosilau a mwynau, gan gynnwys aur, arian, haearn, arian byw, tun, copr, fitriol, plwm, antimoni, arsenig, sylffwr a meini gwerthfawr.
Yn unol â chyffuriaduron safonol y cyfnod, mae gan Pomet astudiaeth o rinweddau meddygol ifori, ond mae’n cyfoethogi’i adroddiad trwy roi gwybodaeth am ddau fath o ddreigiau bach sy'n eu clymu eu hunain wrth goesau eliffantod, sy’n gwthio'u pennau trwy ffroenau’u hysglyfaeth, sy’n tynnu eu llygaid, eu brathu ac sy'n sugno eu gwaed nes iddynt drigo.
Trafoda Pomet a ddaw cochineal o bryfyn neu o blanhigyn, ac wrth wneud hynny dengys yr ansicrwydd ar y pryd am ffurfiau anghyfarwydd o fywyd. Ynghyd â’r drafodaeth ceir darlun o goeden o fath hynod. Cymaint gwerth masnachol cochineal fel y dywedir wrthym, ‘Spaniards wou’d undergo any Punishment, rather than yield that it shou’d be propagated in France‘.
Defnyddir disgrifiad o’r fasnach mewn hedyn dinod gan Pomet i ddychmygu golygfa mewn anialwch a pheryglon teithio.[Artemisia]It is a small Seed, which the Persians trade in by their Caravans from Aleppo, Alexandria, and Smirna. The Caravan is properly a Number of Men, in the nature of a Convoy, to guard the Camels and other Cattle, which are loaded with all sorts of Merchandize, that are brought from Persia once or twice a Year for the Levant-Trade.
Cyflwyna Pomet weledigaeth o segura a bygwth ar ynys drofannol Banda (Indonesia). Gan mor braf yw bywyd y dynion maent yn byw nes iddynt gyrraedd eu cant ac ugain heb ddim i’w wneud ond bwyta, yfed, cysgu a mynd am dro o bryd i’w gilydd, wrth i’r menywod gynaeafu a phrosesu’r cnwd nytmeg gwerthfawr sy’n sail i gyfoeth yr ynys.
Roedd y fasnach mewn nytmeg o dan reolaeth yr Iseldirwyr, a chyhudda Pomet hwy o ddulliau busnes anonest ac o gefnogi segurdod dynion yr ynys. Yn ôl Pomet, roedd yn gas gan yr ynyswyr yr Iseldirwyr ac roeddent yn eu twyllo byth a beunydd.
If by accident the Indians, or whoever feeds the Mill with Canes, shou’d happen to have his Fingers catch’d in the Mill, they must immediately cut off his Arm least the whole Body shou’d be drawn in and ground to Pieces: Therefore, as soon as they see any one have his Finger or Hand catch’d, the person standing by cuts off his Arm with a Hanger. The Juice falling into a Vessel which is below the Mill, and being drawn off, runs by a little Channel into the first Boiler.
Mae symud yn ddirybudd o ddamweiniau gwaedlyd i sudd melys cans siwgr yn gam afrosgo a brawychus. Efallai mai camgyfieithiad neu gysodi gwallus sy’n gyfrifol am hyn.
Wrth nodi bod pili palod yn deillio o bryded sidan pan na thynnir y sidan o’u cocynau, ceir darn pornograffig am bili palod yng ngwaith Pomet: ‘if you leave after this Manner a Number of them, you will have a diverting Sight, to see the Male and Female Butterflies caressing, and making Love; from whence afterwards you have Eggs when the Animal is dead.’
Mae rhyw a marwolaeth yn sicr o danio’r dychymyg. Yn wir am nad oes modd cael gormod o bwdin mewn gwirionedd, dim ond dau dudalen wedyn ceir y crwbanod yn paru: ’They slip a Noose a-round the Neck, or one of their Feet.and sometimes they take both of ‘em together, but most commonly the Female escapes’.
Ar ynys Icarus, ni chaiff dynion ifanc briodi ‘till they can gather a sufficient Quantity of Spunges from the Bottom of the Sea; and for this Reason, when any one wou’d marry his Daughter, a Number of young Fellows are strip’d and jump into the Sea; and he that can stay longest in the Water, and give the best Account of, or gathers the most Spunges, marries the Maid, so that he pay a Tribute, out of his Spunges, to the Grand Seigneur.’
Yn ail ran y gwaith, cyflwyna Pomet ni i swydd ryfedd arall. Cawn weld ‘Dissector, who, with a Knife made of an Ethiopian Stone, cuts the Flesh as much as was necessary and immediately after fled away with all the Expedition imaginable; because it was the Custom of the Relations and the Domesticks to pursue the Dessector with Stones, and do him all the Injuries they cou’d.’

