Tsieina
Ac eithrio un faled ddoniol yn Gymraeg am de parti a aeth o chwith er digrifwch mawr, rhoddwyd pob un o'r llyfrau yn yr arddangosfa hon i lyfrgell Coleg Dewi Sant yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ein rhoddwr mawr, llawfeddyg Cwmni India’r Gorllewin, Thomas Phillips (1760-1851).
Mae’n bosibl i Phillips yntau ymweld â Tsieina ganol y 1790au wrth deithio adref o Awstralia lle bu'n arolygu cyfleusterau meddygol ar ran Cwmni India'r Dwyrain. Efallai fod y casgliad cyfoethog o weithiau sy'n gysylltiedig â Tsieina a roddwyd i'r llyfrgell gan Phillips yn arwydd o'i ddiddordeb personol mewn rhanbarth yr oedd yn gyfarwydd ag ef o brofiad. Un peth sy’n sicr, roedd Phillips yn benderfynol o agor ffenestr i Lambed ar y byd mawr ehangach.

