Marco Polo a Sidan

Marco PoloAm ganrifoedd lawer adroddiad enwog y crwydryn o Fenis, Marco Polo, o’i deithiau ar hyd y Ffordd Sidan i Tsieina a’i genadaethau diplomyddol maes o law yng ngwasanaeth yr Ymerawdwr Kublai Khan oedd y ffynhonnell wybodaeth fwyaf cynhwysfawr ac awdurdodol am Tsieina a oedd ar gael yn Ewrop.

Ar ôl lledu am ganrifoedd ar ffurf llawysgrif, argraffwyd yr adroddiad yn gyntaf yn Nuremberg yn 1477. Roedd gan Christopher Columbus gopi o'r argraffiad Lladin cyntaf, a gyhoeddwyd yn 1485. Argraffwyd yr argraffiad Eidalaidd cyntaf yn Fenis yn 1485. Mae gan LlARB argraffiad Eidaleg maint poced, a argraffwyd yn Fenis yn 1602.

Stradanus SilkDaw’r llun hwn o Vermis Sericus gan Jan van der Straat ac ynddo gwelir dau fynach yn cyrraedd llys yr Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus tua 550 OC gydag wyau pryf sidan a smyglwyd o Tsieina. Creodd yr eglwys a’r wladwriaeth Fysantaidd weithdai ymerodrol, gan fonopoleiddio’r cynhyrchiant a chadw’r gyfrinach iddynt eu hunain. O ganlyniad sefydlwyd diwydiant sidan yn y Dwyrain Canol, a gipiodd y farchnad am sidan Tsieineaidd o radd arferol.

Treuliodd un o artistiaid y Dadeni yn Fflandrys, Jan van der Straat (1523-1605), y rhan fwyaf o’i fywyd yn gweithio yn yr Eidal yng nghyflogaeth Cosimo de’Medici. Hyfforddwyd engrafwyr copi LlARB o’r Vermis Sericus (Antwerp, dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg) gan Peter Paul Rubens.