Y Jeswitiaid a Ginseng Canada

Kircher JesuitsRhwng yr 16eg ganrif a’r 18fed chwaraeodd llyfrau gan genhadon Jeswitaidd rôl sylweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth, gwyddoniaeth a diwylliant rhwng Tsieina a’r Gorllewin.

Gwnaed y cais cyntaf gan Jeswitiaid i gyrraedd Tsieina yn 1552 gan Sant Francis Xavier, offeiriad Sbaenaidd ac un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iesu. Tri degawd yn ddiweddarach, yn 1582, cychwynnodd y Jeswitiaid unwaith eto waith cenhadol yn Tsieina. Cyflwynodd y grŵp hwn wyddoniaeth, mathemateg, seryddiaeth, a chelfyddydau gweledol o’r Gorllewin i’r llys ymerodrol, a chynaliasant drafodaeth ryngddiwylliannol ac athronyddol bwysig ag ysgolheigion Tsieineaidd, yn enwedig gynrychiolwyr Conffiwsaeth. Daw’r adroddiad Jeswitaidd cynnar o Tsieina yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen o’r cyfnod hwn, ac fe’i hargraffwyd yng Nghwlen yn 1589.

Wynebddarlun China Illustrata Athanasius Kircher yw’r llun hwn. Ynddo gwelir Francis Xavier (chwith), Ignatius Loyola (dde) a Christ yn y canol. Isod gwelir Matteo Ricci (dde) a’r daearyddwr a’r seryddwr Almeinig Johann Adam Schall von Bell (chwith), sy’n gwisgo sgwâr mandarin ar ei frest. Daeth Schall von Bell yn gynghorydd i’r Ymerawdwr gan gymryd rhan yn y gwaith o newid y calendr Tsieineaidd.

Ymhlith y llyfrau Jeswitaidd diweddaraf yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen mae casgliad a argraffwyd yn Llundain yn 1714 sy’n cynnwys A Letter from the said F. Jartoux to the E. Procurator General of the Missions of China and India, containing the virtues of the famous Plant Ginseng. Darllenwyd y llythyr gan y Tad Jeswitaidd Canadaidd Ffrengig Lafitau a ddarganfu fod Ginseng yn tyfu ger ardal Montreal. Dechreuodd Jeswitiaid gasglu'r planhigyn a chludo tunelli ohono ar long i Tsieina. Roedd yn fasnach broffidiol: roedd ar gael am 25 cent y pwys yng Nghanada ond yn gwerthu am 5 dollar y pwys yn Canton.