Women Travellers

emma hamiltonTan ymhell i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd teithio oddi mewn i Ewrop yn waith blinedig a pheryglus. Os oedd ffyrdd ar gael roeddent yn rhai gwael, nid oedd ymosodiadau gan ladron pen ffordd yn anghyffredin, ac roedd angen talu crocbris i deithio ar long. Os oedd modd cael llety, un lled afiach fyddai. Y tu allan i Ewrop, roedd amodau’n waeth fel rheol.

Yn achos menywod, yr hyn a wnaeth teithio hyd yn oed yn anos oedd y rhagfarn gyffredinol mewn cymdeithas nad rhywbeth priodol i wragedd oedd teithio. Fodd bynnag, teithio a wnaeth rhai menywod, gan ysgrifennu am eu profiadau. Yn aml teithient er mwyn dilyn eu diddordebau ym maes botaneg, sŵoleg, archaeoleg ac ethnograffeg. Y menywod hyn yw testun arddangosfa ar-lein y mis hwn. [Nesaf]