Women Travellers
Anne MacVicar Grant
Symudodd teulu Anne o Glasgow i Efrog Newydd ym 1757 pan ymunodd ei thad â’r fyddin Brydeinig i ymladd â’r Ffrancod yng Ngogledd America. Treuliodd lawer o’i phlentyndod yn America mewn gwersylloedd anghysbell, megis Fort Oswego ar lan dde-orllewinol Llyn Ontario. Seiliodd ei gyrfa lenyddol ar ei hatgofion am y mannau hynny. Wrth ysgrifennu am ei thaith i’r gaer ryw ddeugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiodd Anne i hyn fod yn anturiaeth gyffrous, pan fyddai ei chwmni, er mawr lawenydd iddi, yn gwersylla o bryd i’w gilydd yn y coed agored gan gynnau tanau enfawr i atal Indiaid gelyniaethus a’r bwystfilod gwyllt. [Nesaf]

