Women Travellers
Frances Trollope
Cefnogodd Frances Trollope ei gŵr a’u saith o blant trwy ysgrifennu llyfrau teithio. Mewn degawd, ymwelodd â phump o wledydd - yr Unol Daleithiau, Gwlad Belg, Awstria, Ffrainc a'r Eidal - gan gyhoeddi llyfr ar bob un. Ei llwyddiant mwyaf mewn gwirionedd oedd ei llyfr cyntaf, sef y gwaith dadleuol Domestic Manners of the Americans (1832).
Cynddeiriogwyd Americaniaid gan ei beirniadaeth hallt o’u “moesau domestig”. Dyma a ddywed wrth gloi: “…of the population generally as seen in town and country, among the rich and poor, in the slave states and in the free states … I do not like them. I do not like their principles, I do not like their manners, and I do not like their opinions.” Gwerthodd Domestic Manners yn dda iawn o’r cychwyn yn Efrog Newydd a Llundain. [Nesaf]

