Women Travellers
Emily Anne Beaufort Smythe Is-iarlles Strangford
O 1858 ymlaen, teithiodd Emily yn yr Aifft, Asia Leiaf, a Syria. Cofnodir ei hargraffiadau yn Egyptian Sepulchres and Syrian Shrines. Roedd yn llwyddiant poblogaidd ac fe'i hargraffwyd nifer o weithiau. Un o’i olygwyr oedd Percy Ellen Algernon Frederick William Sydney Smythe, wythfed Is-iarll Strangford (1825–1869), y diplomydd a’r dwyreinydd. Priododd y pâr ym 1862 a mynd i fyw i’r Dwyrain Agos. Mae ail lyfr Emily, The Eastern Shores of the Adriatic (1864), lle disgrifia ei theithiau hi a’i gŵr yn Albania, Montenegro, Dalmatia, a Corfu, yn llyfr teithio yn rhannol a hefyd yn drafodaeth wleidyddol o’r Cwestiwn Dwyreiniol. [Nesaf]

