Women Travellers
Madame de Staël
Bu rhaid i un o ddeallusion ac un o gymeriadau mwyaf ffasiynol Paris, Mme de Staël, adael Ffrainc oherwydd y Chwyldro. Aeth yn emigrée ar ei hystâd yng Ngenefa a theithio yn yr Eidal a’r Almaen. Maes o law, a heddlu Napoleon ar ei hôl, ffodd i Rwsia ac wedyn i Loegr, lle ysgrifennodd ei hadroddiad o’r fföedigaeth hon, Dix années d'exil, a hanes ei chyfnod, sef Considérations sur les principaux événements de la Révolution française. [Nesaf]

