Women Travellers

Margaret Fuller

FullerNewyddiadurwraig Americanaidd oedd Margaret Fuller Ossoli (1810-1850) a hyrwyddai hawliau menywod. Ystyrid mai ei llyfr Woman in the Nineteenth Century, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1845, yw’r gwaith ffeministaidd sylweddol cyntaf gan awdur yn yr Unol Daleithiau. Flwyddyn ar ôl ei gyhoeddi, teithiodd i Ewrop fel gohebydd benywaidd cyntaf y New York Tribune.

Wrth iddi weithio fel gohebydd tramor yn yr Eidal daeth yn rhan o’r chwyldro. Cafodd berthynas â’r radical gwleidyddol Giovanni Ossoli, a chael plentyn gydag ef. Gwaetha’r modd, bu farw’r tri mewn llongddrylliad ger Fire Island, Efrog Newydd, wrth iddynt deithio tua’r Unol Daleithiau. Ni ddaethpwyd erioed o hyd i gorff Fuller. [Nesaf]