Women Travellers
Mary Wollstonecraft
Ym 1790 cyhoeddodd Edmund Burke ei ymosodiad enwog ar y Chwyldro Ffrengig, Reflections on the Revolution in France. Cythruddodd y llyfr holl radicaliaid Lloegr, a Wollstonecraft yn eu plith. Cyhoeddodd ymateb o dan y teitl, A Vindication of the Rights of Men, a oedd yn llwyddiant o’r cychwyn, a llwyddiant hefyd fu ei llyfr nesaf, A Vindication of the Rights of Woman.
Er mwyn gwylio'r Chwyldro â'i llygaid ei hun, bu Wollstonecraft yn byw yn Ffrainc rhwng 1793 a1795. Tra oedd yno cyhoeddodd An historical and moral view of the origin and progress of the French Revolution and the effect it has produced in Europe (Llundain, 1794) [Nesaf]

