Women Travellers

Maud Howe Elliott

Howe  Enillodd yr Americanes Maud Howe Elliott fri llenyddol yn sgil waith a gyflawnodd ar y cyd â’i chwaer Laura E. Richards, ac a gipiodd y wobr Pulitzer , sef The Life of Julia Ward Howe (1916), a oedd yn gofiant i'w mam. Ei gŵr, yr artist o Loegr John Elliott, a wnaeth y darluniau ar gyfer nifer o'i gweithiau, gan gynnwys Sicily In Shadow And In Sun. Yn y gwaith disgrifia Howe y distryw a achoswyd gan ddaeargryn a chwalodd ddinas Messina a’r ymweliad â’r safle, er mwyn codi arian, gan y cyn-arlywydd T. Roosevelt (a oedd ar ei ffordd i Affrica i hela “Teddy Bears”).[Nesaf]