Women Travellers

Maria Graham (Dundas gynt) y Fonesig Callcott

Lady Maria Callcott. Journal of a residence in India. Edinburgh, 1812Yn ferch i Ôl-lyngesydd, teithiodd Maria Dundas yn eang yn ne a dwyrain yr India gan feithrin diddordeb brwd yn niwylliant, crefydd a hynafiaethau’r India. Ym 1821, ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn Lloegr, teithiodd gyda’i gŵr i Dde America. Gwaetha’r modd, bu farw ei gŵr yn ystod y daith. Er ei bod ar ei phen ei hun, treuliodd Maria y 5 mlynedd nesaf yn Ne America. Y Dyddiadur a ysgrifennodd yn ystod ei chyfnod yn Rio de Janeiro yw un o’r ychydig adroddiadau gan lygad-dyst ynghylch y mudiad annibyniaeth ym Mrasil. Erbyn 1826 roedd yn ôl yn Lloegr ac wedi ailbriodi â’r artist tirluniau Augustus Wall Callcott. Parhaodd Maria i ysgrifennu am deithio, hanes a chelfyddyd. [Nesaf]