Women Travellers
Y Fonesig Mary Wortley Montagu yn Nhwrci
Cydiodd ysfa wyllt yn Ewrop yn y 1700au am bopeth a oedd ymwneud â Thwrci. Ysbrydolwyd hyn yn rhannol gan y cyfieithiad Ewropeaidd cyntaf o’r Mil Noswaith ac Un (i’r Ffrangeg, gan Antoine Galland ym 1704-17, ac i’r Saesneg ym 1706). Cyfareddwyd Ewropeaid gan y straeon am swltaniaid, caethweision a harimau.
Teithiodd y Fonesig Mary i Dwrci ym 1716. Hi a ysgrifennodd yn gyntaf am ddirgelion y seraglio, a honnodd fod gan fenywod Twrci fwy o ryddid na menywod Lloegr. Roedd hefyd yn ddigon eangfrydig i “impio” feirws y frech wen ar ei phlant ei hun, sef arfer cyffredin y tu allan i Ewrop, ac aeth â’r wybodaeth hon yn ôl i Loegr gyda hi – ddeng mlynedd a thrigain cyn i Jenner ddechrau brechu.
Argraffwyd Llythyrau’r Fonesig Mary Wortley Montagu 23 o weithiau rhwng 1763 a 1800. [Nesaf]

