Women Travellers
Y Fonesig Sydney Morgan
Nofelydd amlwg yng nghymdeithas ffasiynol ei dydd oedd y Fonesig Morgan (Owenson gynt), a oedd hefyd yn un o ddilynwyr Madame de Staël. Ysgrifennodd ddau lyfr am Ffrainc a dau arall am yr Eidal. Yr hyn sy’n hynod amdani ymhlith awduresau yw’r holl ladd a fu arni. Fodd bynnag, mesur o’i llwyddiant yw’r pensiwn gwerth £300 y flwyddyn o’r rhestr sifil a ddyfarnwyd iddi er cydnabyddiaeth o'i chymwynasau ym maes llenyddiaeth. Hwn oedd y pensiwn cyntaf o’i fath i’w ddyfarnu i fenyw. [Nesaf]

