Casgliad Cenarth

Yn y casgliad hwn ceir bron mil o eitemau a gasglwyd gan David Henry Davies (1828-1910), ficer Cenarth, ac a ddaeth i Lambed ym 1904. Mae’n cynnwys llenyddiaeth grefyddol Gymraeg, hanes a hynafiaethau, Beiblau, Llyfrau Gweddi, emynau, baledi, pregethau, catecismau, pamffledi a chyfieithiadau o glasuron crefyddol. Efallai mai coron y casgliad yw’r pedair cyfrol o faledi print ar ffurf pamffledi. Maent yn trafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys troseddau cyfreithiol, yn enwedig llofruddiaethau; crogiadau; damweiniau, gan gynnwys trychinebau mewn gweithiau glo; llongddrylliadau; crefydd ac amryfal ddiwygiadau; dechrau’r rheilffyrdd yng Nghymru, ynghyd â digwyddiadau lleol, megis Terfysgoedd Beca. Mae’r baledi’n ymwneud â Chymru yn bennaf, ac ysgrifennwyd rhai ohonynt gan feirdd o Gymru megis Tegid ac Eben Fardd. Un arall o berlau’r casgliad yw argraffiad cyntaf o’r Casgliad o Hymnau gan Ann Griffiths. Ystyrir cerddi a llythyrau’r wraig fferm hon yng nghanolbarth Cymru, a fu farw ym 1805 yn 29 oed, yn rhai o uchelfannau llenyddiaeth Cymru.

Y dyn a oedd yn gyfrifol am gasgliad Cenarth oedd David Henry Davies, a oedd yn ficer ar bentref Cenarth o 1877 ymlaen. Fe’i ganed yn y Cei Newydd, Ceredigion, ym 1828, yn fab i’r llawfeddyg Daniel Owen Davies, a’i wraig Margaret. Addysgwyd Davies yn y Cei Newydd a Cheredigion, cyn mynd i Goleg Dewi Sant, Llambed ym 1862. Urddwyd ef yn gurad ym 1864, ac yn offeiriad ym 1867. Rhwng 1864 a 1865 bu’n gurad ym mhlwyf Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, ac wedyn treuliodd dair blynedd yn gurad yn Ystumllwynarth, Sir Forgannwg. Ym 1868 daeth yn ficer Llannon, Sir Gaerfyrddin, gan adael ym 1877 i ddechrau'n ficer Cenarth. Roedd llyfrgell ardderchog Davies yn ddiahareb; mae’n debyg iddo ei hetifeddu ac ychwanegu ati maes o law. Lluniodd hefyd nifer o faledi, gan gynnwys 'I fechgyn yr Ysgol Rammadegol, Emlyn' (1909).