Casgliadau Ellis
Yng nghasgliad Ellis ceir rhyw 4,000 o lyfrau diwinyddol ac athronyddol o’r 19eg ganrif, a ffurfiwyd gan y Gweinidog Calfinaidd a’r awdur Griffith Ellis (1844-1913). Cyflwynwyd y casgliad i’r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth ym 1914.
Pan gaeodd y Coleg yn 2002, trosglwyddwyd llawer o’i lyfrgell i Lambed. Yn ogystal â Chasgliad Ellis, roedd hefyd ddeunydd o Golegau Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn y Bala a Threfeca. Gosodwyd tua 40 o gyfrolau cyn-1800 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dechreuodd Griffith Ellis (1844-1913) bregethu tua diwedd ei arddegau. Yn 20 oed aeth i astudio yng Ngholeg y Bala. Chwe blynedd yn ddiweddarach aeth i Goleg Balliol, Rhydychen, lle graddiodd ym 1876 (M.A. 1879 ) ag anrhydedd trydydd dosbarth mewn Dyniaethau Llenyddiaeth. Cyn gadael Rhydychen, roedd Ellis wedi cael galwad i fynd yn weinidog ar Eglwys M.C. Stanley Road, Bootle (pregethodd adeg agor y capel newydd yno ym mis Rhagfyr 1876), lle bu tan iddo ymddeol.
Daeth yn llywydd Sasiwn M.C. Gogledd Cymru ym 1900, a’r Gymanfa Gyffredinol ym 1896. Traddododd y ‘ddarlith Davies' gyntaf ym 1894 (cyhoeddwyd ym 1895 o dan y teitl, Y Syched am Dduw). Ymhlith ei lyfrau eraill oedd Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd (1885), cofiannau Cymraeg o William Carey (1897), W. E. Gladstone (1898) ac Edward Morgan, Dyffryn (1906). Ysgrifennodd hefyd nifer o erthyglau mewn cyfnodolion.

