Casgliad Burgess
Yr Esgob Thomas Burgess oedd sylfaenydd Coleg Dewi Sant, Llambed. Yn ei ewyllys gadawodd ei lyfrgell bersonol o ryw 10,000 o gyfrolau i’r Coleg. Rhoddodd ei weddw arian at estyn yr hen lyfrgell er mwyn cynnwys y casgliad. Roedd Burgess yn ysgolhaig o’r radd flaenaf ac yn ddadleuwr brwd a oedd yn ymddiddori’n anad dim mewn diwinyddiaeth ac yn y clasuron.
Gweithiau Clasurol
Dechreuodd diddordeb ysgolheigaidd Burgess yn y clasuron yn ifanc iawn a pharhau a wnaeth ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth glasurol gydol ei fywyd. Arwydd o’i ddiddordebau penodol yw’r ddwy gyfrol a gyhoeddwyd yn Fenis yn y bymthegfed ganrif, sef Rhetorica Aristoteles, a argraffwyd ym 1481, ac Introductivae grammaticis Theodore Beza, a argraffwyd ryw bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach.
Aristoteles
Llun
De Poetica Tyrwhitt wedi ei rwymo gyda gwaith gan Burgess ei hun, Musei Oxoniensis litterarii speciminum fasciculus secundus ...
Ym Mhrifysgol Rhydychen enillodd Burgess enw am fod yn ysgolhaig ifanc disglair a daeth o dan adain y clasurwr a'r golygydd gwyddonol cyntaf o waith Chaucer, Thomas Tyrwhitt. Cymaint oedd bri academaidd Burgess nes cyn iddo adael Rhydychen am Gadeirlan Durham, goruchwyliodd y gwaith o lywio trwy’r wasg gywiriad Tyrwhitt o’r De Poetica a argraffwyd ym 1794.
Llun:
Argraffwyd deg copi ar hugain o argraffiad Tyrwhitt o'r De Poetica yn arbennig ar bapur mawr. Eiddo Burgess oedd y copi hwn.
Gadawodd Tyrwhitt yn ei ewyllys i Burgess argraffiad 1536 Aldine o’r De Poetica. Cofnodir y rhodd yn y llyfr gan Burgess sy’n rhoi’r dyddiad: 7 Rhagfyr, 1797. Hynodrwydd deniadol pellach am y gyfrol hon yw’r rhwymo Eidalaidd cyfoes, cefnyn felwm a byrddau wedi eu gorchuddio â phapur coch wedi’i foglynnu ac arno batrymau blodeuog a fasau. Ceir hefyd lofnod y perchennog blaenorol, sef W. Carte, ac mae gwahanol bobl wedi gwneud nodiadau ar y testunau Lladin a Groeg.
Llun:
Arysgrif gan Burgess ar y dudalen rwymo sy’n cofnodi mai rhodd oedd y gyfrol hon o lyfrgell ei fentor a'i gyfaill Thomas Tyrwhitt.
Ychwanega nifer o weithiau eraill gan Aristoteles at werth y casgliad hwn. Dau ffolio o argraffiad Causabon 1605 a stamp Abaty San Steffan ar y teitl, ynghyd â’r deng cyfrol gwarto mewn Groeg o argraffiad cyflawn Frankfurt 1577-87, a nodweddir gan brif lythrennau addurnedig cain a darluniau achlysurol. Gwelir rhagor o draethodynnau gan Aristoteles mewn gweithiau cyfansawdd megis Rhetores in hoc volumine gan Aldine, a argraffwyd ym 1508.
Llun
Stamp Abaty San Steffan o wynebddalen argraffiad Casaubon ym 1605.
Llun:
Darlun o argraffiad Frankfurt 1577-87
Llyfrau Gramadeg a Blodeugerddi
Cyfrannodd llyfr gramadeg Gaza yn sylweddol i’r adfywiad mewn Groeg yn y Gorllewin. Ychwanegir ato ddeng cyfrol ffolio Thesaurus grecae linguae Stephanus, a argraffwyd yn Llundain rhwng 1816 a 1822, a nifer o argraffiadau o’r Flodeugerdd Roeg, yn enwedig argraffiad Leipzig 1794-1814 gan Brunck mewn 13 cyfrol.
Llun:
Homer Burgess
Cymaint diddordeb Burgess mewn astudio Homer nes iddo gyhoeddi ei argraffiad beirniadol ei hun o'r enw Initia Homerica, a gyhoeddwyd ym 1788. Yn y copi hwn gwelir cywiriadau niferus ar y testun a nodau prawf ddarllen priodol gan Burgess ei hun sy’n arwydd posibl o argraffiadau arfaethedig yn y dyfodol.
Ymhlith y gweithiau eraill gan Homer mae tair cyfrol ffolio o esboniad Eustathius ar yr Iliad a’r Odysseia a gyhoeddwyd gan Froben yn Basel ym 1559.
Ymhlith y gweithiau nodedig eraill yn y casgliad mae 12 cyfrol gwarto o Bibliotheca Graeca (1790) a’r ffolios mawr: Tertullianus (Paris, 1675), Strabo (1807) yn argraffiad cain Gwasg Clarendon, Aristophanes (Leipzig, 1710), Diodorus Siculus (Amsterdam, 1746), Photius (Rouen, 1653), a Herodotus (Amsterdam, 1763).
Hebraeg
Un o ddiddordebau argraffu Burgess oedd golygu nifer o lyfrau gramadeg a gwerslyfrau Hebraeg. Pwysleisia’n barhaus fod i’r gwaith o astudio’r Hebraeg oblygiadau deallusol a moesol. Does dim dwywaith nad oedd yn hollbwysig i astudiaethau ysgrythurol. Wrth bori trwy gatalog ei gasgliad ceir syniad pendant o ddiddordebau ieithyddol Burgess. Gwelir gwaith Richardson, Grammar of the Arabic language (1801) a Lingua sacra Levi (1803), Persian Interpreter Moises (1792) a Lexicon Syriacum Schaaf(1717). Mae wyth cyfrol Christopher Saxe, Onomasticon literarium , yn dal sylw, ynghyd â dwy gyfrol ffolio o waith Edward Lye, sef y Dictionarium Saxonico et Gothico-Latinum-Biblicum (1765).
Ymddengys nad oedd gan Burgess ddiddordeb mewn archaeoleg yr hen fyd. Fodd bynnag, roedd ganddo gopi o lyfr Lechavalier, Description of the Plain of Troy (1791), a oedd yn feirniadol o fap Wood o’r gwastatir ac a oedd yn rhodd gan gyfieithydd y gwaith, Andrew Dalzel.
Dadleuon Crefyddol
Cymerodd Burgess ran amlwg mewn dadleuon crefyddol cyfoes. Mae ei lyfrgell yn adnodd cyfoethog o'r testunau llosg niferus ynghylch crefydd yn ei ddydd. A rhoi un enghraifft: adlewyrchir y feirniadaeth a daniwyd gan sylwadau Gibbon am gynnydd Cristnogaeth y ffaith fod gan Burgess bum cyfrol, gan Davis, Chilsum, Apthorp, Eyre, a Loftus, a phob un ohonynt wedi eu cyhoeddi ym 1778, sef dwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r gyfrol gyntaf o waith hanesyddol Gibbon. Hon oedd blwyddyn graddio Burgess yn ddwy ar hugain.
Ysgrythurau
Roedd gan Burgess ddau gopi godidog o Feibl y Fwlgat, y naill yn llawysgrif a’r llall yn argraffiad. Roedd angen dros dair blynedd o lafur i wneud y llawysgrif o'r Fwlgat, a gwblhawyd ym 1279 gan Sieffre o Frecamp, ac a ariannwyd fwy na thebyg gan Iago, abad Saint-Pierre-sur-Dives, ger Liseaux, Calvados. Roedd iddo darddiad amrywiol, ond mae’n debyg i’r llawysgrif gyrraedd Lloegr trwy law’r Carthwsiaid yn y 15fed neu’r 16eg ganrif. Atodiad teilwng iawn i harddwch y miniaturau a'r llawysgrif yn y Fwlgat Normanaidd hwn o’r 13eg yw’r argraffu cymen mewn wyneb teip rotwnda ynghyd ag ymylon clasurol ym Meibl Fienetaidd Nicolas Jenson (1476) ac enw’r perchennog yn ysgrifenedig arno: ‘Collegij Paris. Societ. Jesu.’ Roedd gan Burgess un incwnabwlwm nodedig arall yn ei feddiant, sef y Golden Legend gan de Worde (1498).
Fodd bynnag, efallai mai pennaf nodwedd y casgliad yn ei gyfanrwydd yw nifer o fersiynau argraffedig gwych o’r Testament Newydd Groeg. Meddai Burgess ar y gyfrol ar y Testament Newydd ym Meibl Amlieithog Complutum a luniwyd gan y Cardinal Ximenes yn Alcala, lle gwelir y teip Groeg harddaf a luniwyd erioed. Heb fod yn llai deniadol nag urddas Sbaenaidd y Complutum, ceir 3ydd argraffiad (1522) Testament Newydd Groeg Erasmus a argraffwyd yn Basel gan Froben, a’r addurn trymach ond mawreddog oddi amgylch o waith Urs Graf. Yn yr un a argraffwyd gan Simon de Colines (Paris, 1534) ceir y ddyfais ‘Tempus’ enwog ac ymylon blodeuog coeth, ac mewn ffolio o’r Testament Newydd a argraffwyd yn Frankfurt (1601) gwelir testun Stephanus. Ychwanega at y rhain nifer o Destamentau’r 18fed ganrif yn enwedig ffolio godidog o 1710.
Aeth Testamentau Newydd Syriaeg hefyd â sylw Burgess. Roedd ganddo 3ydd argraffiad o Guy Lefèvre
de la Boderie (Paris, 1584) mewn cymeriadau Hebraeg gyda chyfieithiad Lladin mewn ffont llai rhwng
y llinellau. Mae’r rhwymo ar y gwaith hwn mewn dwy gyfrol yn atgoffa dyn o waith cynharach yr enwog Roger Payne yn Eton, ond ymddengys nad oedd y maes hwn ym myd celfyddyd llyfrau at ddant Burgess. Ar Destament Newydd
Syriaeg a olygwyd gan Adler (Hafniae, 1789) gwelir platiau ysgythrog arbennig o godecsau llawysgrif.
Tadau’r Eglwys
Roedd gan Burgess gasgliad hardd o ffolios mawr tadau’r Eglwys fore: pedair cyfrol o Origen (Paris, 1733-1759); 13 cyfrol o Chrysostom a olygwyd gan Montfaucon (Paris, 1718-38) ynghyd â’r llawysgrifen sy’n eu priodoli i'r ‘Bibliotheca Bellorepariensis’; chwe chyfrol o Cyril (Paris, 1638); gwaith Cyprian (Amsterdam, 1700). Ceir hefyd Thesaurus Temporum Eusebius, a olygwyd gan Scaliger (Amsterdam, 1658), a Bibliotheca librorum Photius (Rothomagi, 1653), sef adolygiad crynodol o 280 o weithiau a ddarllenwyd gan Photius, y mae llawer ohonynt bellach wedi eu colli.
Hanes yr Eglwys
Ceir detholiad o weithiau ac esbonwyr yr un mor fawr ym maes Hanes yr Eglwys: Laws Hooker (1666), argraffiad cain Caergrawnt o waith Beda (1722); Relation Laud (1639); Concilia Spelman (1639); y gwaith cynhennus De Doctrina Christiana gan Milton, y parhaodd Burgess yn ddiflino ei ymdrechion i wrthbrofi ei awduriaeth; llafur swmpus Dupin yn argraffiadau Paris, Llundain, a Dulyn. Ceir hefyd yr History of the Evangelical Churches of the Valleys of Piemont gan Morland (1658), a’r Histoire des Juifs gan Basnage de Beauval(1716) a’r History of the Popes gan Bower (1748-66).
Athroniaeth
Prin oedd diddordeb Burgess ym meysydd athroniaeth bur. Yr unig lyfr gan Locke yn ei feddiant oedd The Reasonableness of Christianity (1748); ac un o’r ychydig weithiau o bwys yw llyfr Shaftesbury, Characteristicks of men, manners, opinions, times (1727). Fel arall, ni cheir ond arolygon cyffredinol megis gwaith Gesner, Primae lineae isagoges in erudition universalem (Lipsae, 1774-75) sy'n cynnwys nodyn eofn yn ei lawysgrifen ei hun: ‘An introduction to Universal Erudition should begin with the History of Learning for the same reason that an introduction to philosophy should begin with a History of Philosophy‘.
Athroniaeth Naturiol a Hanes Naturiol
Golygwyd Opera Newton (1779-85) gan Samuel Horsley, sef rhagflaenlydd Burgess yn Esgobaeth Tyddewi, ac mae’n debyg mai hwn yw’r prif reswm ei fod yn y casgliad. Un o’r cyfrolau gwyddoniaeth cynharaf yw esboniad Proclus ar Euclid (1560); un o’r gweithiau diweddaraf yw anerchiad agoriadol darllenydd cyntaf Rhydychen mewn daeareg, sef William Buckland. Ceir hefyd waith Buckland Reliquae Diluvia … sy’n nodi olrhain effeithiau dilyw byd-eang (1823), ac a roddwyd i Burgess gan yr awdur. Roedd Buckland a Burgess ill dau yn Wykehamiaid ac yn Gymrodyr yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen. Aeth Buckland yn ei flaen i fod yn Ddeon San Steffan a Llywydd y Gymdeithas Ddaearegol, wrth i Burgess yntau gael ei ddyrchafu’n esgob ac yn Llywydd Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth.
Yr argraff a roddir gan yr ychydig weithiau o hanes naturiol yn y casgliad yw un o leygwr a oedd yn ymddiddori yn y maes. Un o’r llyfrau yw Naturalist’s Calendar Gilbert White (1795), a brynwyd o bosibl o deyrngarwch at frodor arall o swydd Hampshire (ganed Burgess yn Odiham), ynghyd â Flora Rustica Thomas Martyn (1792) a’i blatiau ysgythrog deniadol a liwiwyd â llaw. Ceir hefyd yn y casgliad ddau waith meddygol, Biographia medica Benjamin Hutchinson (1799), a’r mynegair mawr cyntaf o weithiau Hippocrates, yr Oeconomia (Frankfurt, 1588), a brynwyd o bosibl am resymau ieithyddol.
Hanes, Hynafiaethau, Topograffeg
Pwnc Traethawd Saesneg Burgess a gipiodd Wobr y Canghellor yn Rhydychen oedd ‘Am astudio hynafiaethau’. Yn rhyfedd iawn, roedd llawer o ohebwyr Burgess hwythau wedi ennill y wobr ar gyfer y Traethawd Saesneg - Henry Hart Milman (1791-1868) er enghraifft, un o olygwyr Gibbon a Deon Cadeirlan Sant Paul, a Joseph Warton (1722-1800) y beirniad a phifathro Burgess yng Nghaer-wynt.
Nid syndod yw nodi bod gan Burgess y gwaith mawr hwnnw o dopograffeg glasurol, De Urbis Stephanus Byzantius (Amsterdam, 1678). Roedd nifer o’r gweithiau eraill yn perthyn i ddetholiad safonol hynafiaethwyr Lloegr: Historia major Matthaeus Paris (1640) Institution of the Garter Elias Ashmole (1672), History and Antiquities of the University of Oxford Anthony a Wood (1792-96), Collectanea Leland (1774) a olygwyd gan Hearne, ac Index Villaris Adam (1680).
Roedd ganddo chwe chyfrol ffolio'r Biographia Britannica anorffenedig (1747-66) ac ychwanegodd atynt trwy brynu Dictionnaire universel, historique, critique et bibliographique Paris (1810-1812) a’r cyfieithiad Saesneg o Hanes Lloegr gan Rapin (1757-63) mewn 21 o gyfrolau.
Adlewyrchai llawer o wariant Burgess gysylltiadau rhanbarthol. Er enghraifft, tanysgrifiodd i Parochial history and antiquities of Stockton upon Tweed Brewster (1796). Roedd ganddo hefyd gopi o The History and Antiquities of Durham (1823) gan William Hutchinson. Cynrychiolir ei gyfnod yng Nghaersallog yn y casgliad gan Description of the Cathedral Church gan Francis Price (1774) a Wiltshire extracted from Domesday Book Wyndham (1788). Ceir hefyd eiriaduron topograffaidd cyfarwydd gan Nicholas Carlisle, Benjamin Capper a Clement Cruttwell.
Celtica
Ac yntau’n Esgob Tyddewi, nid syndod yw iddo brynu amrywiaeth ddiddorol o weithiau sy’n ymwneud â Chymru a’r ardaloedd Celtaidd eraill. Tystia Britannicae descriptionis Humphrey Lhuyd (1731), Historia Brittonum Nennius (1819) a Historie of Cambria Caradog o Lancarfan (1811) i’w ddymuniad i ddeall seiliau hanesyddol y Gorllewin Celtaidd. Ychwanegodd at y rhain yr arolygon sirol a oedd ar gael ar y pryd: History of Brecknock Theophilus Jones (1805), Historical Tour in Monmouthshire William Coxe(1801) a Book of Glamorgan’s Antiquities gan Rice Merrick a gyhoeddwyd ym 1825 ym Middle Hill gan Syr Thomas Philipps y casglwr llyfrau diarhebol yr ysrtyriwyd unwaith symud ei gasgliadau enfawr o lyfrau a llawysgrifau i Lanymddyfri.
Roedd llenyddiaeth deithiau, a Theithiau Thomas Pennant yn symbol ohoni o bosibl, yn un o nodweddion yr Oes Ramantaidd. Ymhlith y llyfrau a brynwyd gan Burgess oedd cyfrolau gan Donovan, Lipscomb ac Evans. Prynodd hefyd The Historical and Descriptive Account of Monmouth (1804) gan Charles Heath, yr argraffydd dawnus ac ecsentrig a luniodd ei destun wrth osod ei deip metal. Roedd gan Burgess hefyd gyfrolau o Etchings of Tenby and Pembrokeshire Norris, a map plyg o arolwg hydrograffaidd Morris o arfordir Cymru (1800).
Mwy llenyddol yw naws Claims of Ossian Edward Davies (1825) a Vindication of Ancient British Poems Sharon Turner (1803). O ganlyniad i weithiau gan Thomas Llewelyn, daeth Burgess yn gyfarwydd â fersiynau Cymraeg o’r Beibl ac â seiliau hanesyddol yr iaith Gymraeg; a dysgodd am y dimensiwn Gwyddelig trwy ddarllen Ussher a Sankey, yn ogystal â chyfrol gyntaf Rerum Hibernicarum (1814) a oedd yn ei feddiant. Prynodd hefyd eiriadur a llyfr gramadeg Armstrong ar gyfer yr Aeleg.
Llenyddiaeth Saesneg
Yn ôl cofiannydd Burgess, Harford (1840), tua diwedd ei fywyd, hoffai’r Esgob ymlacio gyda’r nos trwy ddarllen yn dawel gyfrol o farddoniaeth Saesneg megis Gray. Yn wir, meddai Burgess ar argraffiad cain Foulis o’i gerddi (Glasgow, 1768), ond prin yw’r gweithiau eraill yn y cywair hwn ac eithrio tair cyfrol Ellis, Specimens of the early English poets (1803) a The Canterbury Tales yn argraffiad 1775-78 ei gyfaill Thomas Tyrwhitt, lle ceir yn arysgrifenedig ‘T.Burgess, 1780, from the editor’. Y deng cyfrol octafio ynghyd â nodiadau gan Samuel Johnson a George Steevens oedd testun Shakespeare'r Esgob, ac ychwanegwyd at hwn atodiad dwy gyfrol Malone. Yng nghyfrolau traethodaynnau Burgess ceir llawer o ddarnau byrrach Tyrwhitt, gan gynnwys Observations and conjectures upon some Passages of Shakespeare, a gyhoeddwyd yn Rhydychen (1766), Conjecturae in Strabonem (1783), a thraethodyn ar Esop.
Milton oedd un o obsiesiynau Burgess. Argraffiad ffolio Opera omnia Latina (Amsterdam, 1698) a Chofiant Hayley (1746) yw’r gweithiau mwyaf nodedig. Ymhlith y gweithiau eraill, llenyddol eu diddordebau, ceir The History of English Poetry gan Warton, Literary Anecdotes Nichol a oedd yn destun safonol yn y 18fed ganrif. Nid yw llenyddiaeth fodern o wledydd eraill yn nodweddu’r casgliad, ond o bryd i’w gilydd ceir gweithiau nodedig cyfieithiad Ffrangeg Amyot o Plutarch (1783-87) mewn 22 o gyfrolau octafio, a deuddeng cyfrol gwarto argraffiad Fenis o Delle Opere Tasso (1735-42).

